Neidio i'r prif gynnwy

Mae'ch Llais yn Bwysig

Dydd Llun 13 Chwefror 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn falch o fod yn cyflwyno CIVICA - llwyfan Adborth Dinesydd electronig a fydd yn helpu pobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau i ddweud wrthym beth yw eu barn am eu gofal.

Hoffem ddarparu'r gofal gorau posibl, felly mae'n bwysig iawn i ni fod pobl yn dweud wrthym am eu profiadau gofal iechyd. Bydd adborth yn ein helpu i ddysgu, gwneud newidiadau lle bo angen, a dathlu'r hyn rydym yn ei wneud yn dda.

Mae ein staff bob amser ar gael i siarad â chi am eich gofal. Fodd bynnag, gwyddom weithiau nad yw pobl am siarad am eu gofal ar yr adeg y maent yn ei gael, neu y byddai’n well ganddynt roi adborth yn ddienw. Bydd CIVICA yn caniatáu ichi wneud hyn.

Ar 20 Chwefror 2023, bydd CIVICA yn cael ei lansio ar draws y Bwrdd Iechyd. Bydd posteri gyda Chodau QR yn cael eu harddangos ar draws ein hysbytai a’n clinigau, a gallwch adael eich adborth yn ddienw drwy sganio’r cod hwn ar eich ffôn/dyfais bersonol.

Bydd dolen electronig i arolwg adborth hefyd ar gael ar ein gwefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol. I bobl na allant adael eu hadborth yn electronig, bydd arolygon papur ar gael.

Mae cyflwyno CIVICA yn ddatblygiad allweddol i’r Bwrdd Iechyd. Bydd staff yn gallu gweld yr adborth yn rheolaidd, gan eu helpu i wella eu hadrannau.

Dywedodd Jennifer Winslade, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Mae gwrando a dysgu o brofiad pobl yn flaenoriaeth allweddol i’r Bwrdd Iechyd ac rydym yn gyffrous iawn i fod yn lansio CIVICA. Gyda'n cleifion yn rhannu eu profiadau gyda ni, gall staff ar draws ein gwasanaethau mynd i'r afael ag unrhyw bryderon yn gyflym. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu cynnydd yn adborth ac awgrymiadau pobl.”

Dywedodd Tanya Strange, Pennaeth Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Mae’r hyn sy’n bwysig i bobl yn bwysig i ni. Mae gwrando ar brofiadau pobl yn helpu ein timau i ddysgu am yr hyn sy'n bwysig i gleifion a'u teuluoedd. Mae cyflwyno CIVICA yn golygu y byddwn yn clywed gan fwy o bobl ar draws ein cymunedau, gan ein helpu i wella gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn."