Neidio i'r prif gynnwy

Mam Leol yn diolch i staff y GIG drwy roi CuddleCot, a brynwyd drwy godi arian torfol, i'r Gwasanaethau Mamolaeth

Mae mam o Went, Cally Ahearne, wedi coffau ei mab a gollwyd fel baban marw-anedig, drwy roi CuddleCot i Ysbyty Prifysgol y Grange.

Gyda chymorth ei thudalen GoFundMe, mae Cally wedi rhoi CuddleCot i dîm Bydwreigiaeth Profedigaeth yr Ysbyty i gofio am Junior, yr oedd disgwyl iddo gael ei eni ddydd Iau, 1 Rhagfyr.

Pan roedd hi 20 wythnos yn feichiog, cafodd babi Cally ddiagnosis o sawl annormaledd. Yn dilyn sgan arall pan oedd hi 24 wythnos yn feichiog, cafodd wybod na fyddai’n goroesi oherwydd cyflwr o’r enw hydrops.

Rhoddwyd cynllun ar waith iddi eni Junior yn gynnar, ac ystyriwyd y byddai’n fwy diogel i Junior farw cyn cael ei eni. Gwrandawodd a pharchodd y meddygon ymgynghorol gais Cally i roi genedigaeth iddo, gan dderbyn y byddai’r amser gyda’i gilydd yn brin.

Ganwyd Junior ddydd Sadwrn, 13 Awst, yn pwyso 1 pwys a 7 owns, 16 wythnos yn gynnar.  

“I mi fel mam, roedd angen i mi wybod fy mod wedi gwneud popeth hyd fy ngallu ar ei gyfer ef. Ac ro’n i’n ddigon lwcus o gael awr a 36 munud gydag ef” meddai mam, Cally.  

Uned fechan a symudol yw CuddleCot sydd wedi’i gysylltu â pheipen a mat sy’n sicrhau tymheredd oer. Mae’r elfen symudol yn golygu y gall gael ei lleoli mewn unrhyw le sy’n rhoi cysur i’r rhai sydd ei angen, megis basged Moses neu got. Roedd defnyddio CuddleCot yn sicrhau pedwar diwrnod ychwanegol i Cally-Ann feithrin perthynas gyda Junior a gallu ffarwelio. Disgrifiodd Cally-Ann gefnogaeth yr offer a’r tîm.  

“Roedd wrth fy ngwely mewn basged Moses bach, a chefais 4 diwrnod gydag ef. Gall teuluoedd feithrin perthynas. Mae’n rhoi dewis iddyn nhw pan fo un ar gael” meddai Cally.

Gan wybod effeithiau positif defnyddio’r offer, cododd Cally dros £3400 tuag at CuddleCot newydd i’r tîm profedigaeth i’w helpu i barhau i gefnogi mamau mewn profedigaeth yn ystod eu cyfnod trist.

“Dwi’n meddwl y bydden i’n berson gwahanol heddiw heb gefnogaeth y merched yma, y meddygon ymgynghorol a’r staff,” meddai.  

Mae’r tîm bydwreigiaeth profedigaeth yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi cleifion a’u teuluoedd sy’n mynd drwy brofiadau fel hyn. Fel arfer, byddant yn aros mewn cyswllt gyda’r claf, yn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n iawn ac yn eu cyfeirio at gefnogaeth ychwanegol lle bo angen.  

Bu i Cally ganmol ei bydwraig dan hyfforddiant, Jasmin Peploe-Griffin, a’r fydwraig brofedigaeth, Louise Howells, a wnaeth drin ei mab gyda pharch ac urddas.  

"Roedd hi’n fraint cael cefnogi Cally yn dilyn colli Junior, a chael bod ar gael i roi cyngor. Mae rôl bydwraig brofedigaeth yn hynod werthfawr i deuluoedd a staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan,” meddai Louise Howells, sy’n Fydwraig Brofedigaeth.

“Gall cymorth profedigaeth o safon uchel helpu teuluoedd yn fawr iawn yn ystod cyfnod hynod o anodd. Dwi’n teimlo’n angerddol dros y gwaith, ac rwy’n cael cefnogaeth tîm ardderchog o fydwragedd, gyda pharch a gwerthfawrogiad aruthrol tuag at eu gofal tosturiol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda theuluoedd yn y dyfodol i barhau i ddatblygu’r gwasanaeth,” dywedodd Louise.  

“O’r glanhawyr i’r gweithwyr cymorth gofal iechyd, y nyrsys, y bydwragedd, y meddygon ymgynghorol, i bawb sydd wedi fy nghefnogi, ni fydd diolch fyth yn ddigon” meddai Cally.