Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, cleifion a staff Gofal Iechyd, o 6pm heddiw, dim ond gofal deintyddol brys/ hanfodol y bydd pob Meddygfa Deintyddol Caerffili yn gallu ei ddarparu ac ni fyddant yn gweld unrhyw gleifion sy'n byw y tu allan i'r Fwrdeistref i gael gofal deintyddol arferol yn hyn o bryd.
Cynghorwyd pob Meddygfa Ddeintyddol arall ar draws Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i oedi cyn gweld cleifion arferol/ nad ydynt yn hanfodol sy'n byw ym mwrdeistref Caerffili, nes bydd rhybudd pellach ynghylch mesurau cloi.
Mae holl bractisau deintyddol y GIG yn parhau i fod ar agor. Os oes gennych broblem ddeintyddol nad yw wedi gwella gyda chyffuriau lladd poen, haint deintyddol neu lwmp, chwydd neu wlser nad yw wedi diflannu ar ôl pythefnos, fe'ch cynghorir i ffonio'ch Practis Deintyddol neu linell gymorth ddeintyddol leol ar 01633 744387.
Os oes gennych chi, neu aelod o'r teulu neu rywun rydych chi'n byw gyda nhw COVID 19, gall y Practis Deintyddol ddarparu cyngor dros y ffôn, ac ysgrifennu Presgripsiwn am Feddyginiaeth os oes ei angen. Os oes angen gofal deintyddol brys arnoch, efallai y bydd angen i chi gael eich gweld yn un o ganolfannau deintyddol COVID 19 sydd â'r PPE cywir (masgiau, gynau, fisorau) i amddiffyn y tîm deintyddol. Gall y llinell gymorth ddeintyddol neu'ch deintydd eich cyfeirio os bydd ei angen.