Neidio i'r prif gynnwy

Myfyrio ar Goffadwriaeth

Fe’u cofiwn.

Ar Sul y Cofio eleni, cofiwn bawb a wnaeth yr aberth eithaf wrth wasanaethu ein gwlad.

Gan fod 6 catrawd o Gymru’n yn ymwneud â'r Rhyfel Byd Cyntaf a 7 yn yr Ail Ryfel Byd, gwnaeth nifer o bersonél y lluoedd yr aberth eithaf ac maent wedi parhau i wneud hynny yn ystod y rhyfeloedd sydd wedi dilyn.  Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd chwaraeodd ysbytai ran mewn gofalu am y rhai a ddychwelodd wedi'u hanafu ac roedd Ysbyty Brenhinol Gwent yn un o’r rhain

Yn y llun mae milwyr yn ymadfer gyda staff ysbyty yn Ysbyty Brenhinol Gwent. Bu Newportpast.com yn ddigon caredig i’w rannu. 

Dywedodd y Caplan, y Parch. Dean Aaron Roberts: “Mae digwyddiadau coffa yn bodoli er mwyn rhoi cyfle inni gofio’r milwyr a’r sifiliaid di-ri a ddioddefodd galedi, dioddefaint a cholled tu hwnt i’r dychymyg yn ystod penodau tywyll ein hanes.”

“Mewn ysbyty, rydyn ni’n dyst i wytnwch yr ysbryd dynol bob dydd. Gwelwn ddewrder cleifion yn brwydro yn erbyn salwch ac ymroddiad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n cynnig cysur a gofal. Yma rydyn ni'n dod o hyd i gysylltiad dwfn â'r syniad o gofio, oherwydd yn ein hysbytai a'n lleoliadau gofal iechyd, rydyn ni'n gweld adleisiau o aberth, gwasanaeth ac iachâd.”

Y Caplan, y Parch. Deann Aaron Roberts yn darllen “In Flanders Fields” gan John McCrae