Neidio i'r prif gynnwy

Mynychu Unrhyw Le - Dweud eich dweud ar ymgynghori fideo

Dydd Iau 15 Gorffennaf 2021

Dyma gyfle i ddweud eich dweud am ymgynghori fideo.

Mae TEC Cymru eisiau clywed gan ddefnyddwyr Attend Anywhere yn GIG Cymru.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd TEC Cymru y Gwerthusiad Cam 2 – Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru.

Mae’r astudiaeth hon a oedd yn ystyried Cymru gyfan ac yn canolbwyntio ar ‘buddion, heriau a chynaliadwyedd’ wedi amlygu gwybodaeth gwerth chweil ynghylch y ffordd mae cleifion ac ymarferwyr wedi defnyddio ac addasu i drawsnewid digidol yn y GIG.  

Fel dilyniant i hyn, hoffem eich gwahodd i’n grwpiau ffocws lle byddwn yn cyflwyno’r canfyddiadau hyn, gyda’r nod o:

• Drafod y canfyddiadau yn fanylach a dilysu’r canlyniadau/casgliadau  

• Dysgu mwy ynghylch y defnydd, gwerth, buddion a heriau… pa fesurau a data newydd posib y dylem fod yn eu cofnodi, e.e. ‘cyrraedd teuluoedd anodd eu cyrraedd’

• Deall mwy am y rhai nad ydynt yn defnyddio YF a’r rhesymau am hyn  

• Archwilio meysydd anhysbys, e.e. canlyniadau clinigol, DNAs, amseroedd aros a mwy.

I gofrestru ar gyfer y grŵp ffocws, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/phase-2-data-follow-up-groups-tickets-159459861739