Neidio i'r prif gynnwy

Negeseuon o Adref

Dydd Iau 13 Ionawr 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw hi i gleifion a’u hanwyliaid weld ei gilydd tra’u bod yn derbyn gofal yn yr ysbyty. Mae angen i ni gydbwyso hyn yn ofalus gyda’r risg i gleifion, aelodau o’r teulu a staff a ddaw yn sgil ymweld tra bod Covid mor rhemp yn y gymuned.

Oherwydd yr heriau cynyddol a wynebir o ganlyniad i’r amrywiad Omicron newydd ac er mwyn diogelu diogelwch cleifion a staff, bydd y Bwrdd Iechyd nawr yn gweithredu polisi ymweliadau hanfodol yn unig o Ddydd Llun 10 Ionawr 2022.

Mae ein gwasanaeth 'Negeseuon o Adref' ar gael o hyd i alluogi teuluoedd a ffrindiau i anfon dymuniadau da i'w hanwyliaid yn yr Ysbyty trwy gyfeiriad E-bost pwrpasol. Bydd pob neges a dderbynnir yn cael ei hargraffu gan aelod o staff a'i throsglwyddo i dîm Clinigol y claf. Bydd cymorth i ddarllen negeseuon hefyd yn cael ei ddarparu os oes angen.

Bydd y gwasanaeth yn gweithredu o Ddydd Llun i Ddydd Gwener. Mae'n bosibl y bydd negeseuon yn dal i gael eu hanfon dros y penwythnos, ond ni fydd y rhain yn cael eu dosbarthu tan Ddydd Llun. Dylai unrhyw un sy’n dymuno anfon neges at ffrind neu rywun annwyl e-bostio eu neges, ynghyd ag enw llawn y claf, Rhif Ward a Safle’r Ysbyty i: MessagesfromHome.ABB@wales.nhs.uk