Neidio i'r prif gynnwy

Newid Lleoliad ar gyfer triniaethau a chleifion allanol Haematoleg

Yn dilyn pandemig COVID-19, gwnaed penderfyniad ar sail diogelwch cleifion fis Mawrth eleni i ail-leoli'r gwasanaeth haematoleg o ysbytai Brenhinol Gwent a Neuadd Nevill i Ysbyty Ystrad Fawr, Ystrad Mynach. 

 

Mesur dros dro oedd y symudiad hwn, a nawr rydym yn gallu ailgychwyn rhai o drefniadau blaenorol y gwasanaeth. Ddydd Llun 30 Tachwedd 2020, bydd yr Uned Ddydd Haematoleg a'r rhan fwyaf o glinigau yn symud yn ôl i'r Uned Achosion Dydd Meddygol yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd.  Rydym yn falch fod hyn bellach yn bosib, ac rydym yn bwriadu cychwyn cynnig gwasanaethau ein huned ddydd a chlinigau yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall, yn unol â’r drefn cyn pandemig COVID-19, cyn gynted ag y bydd hi'n ddiogel gwneud hynny.

 

Ar ran pawb yn yr Adran Haematoleg, hoffem ddiolch i'r holl gleifion a pherthnasoedd am eich dealltwriaeth a’ch cefnogaeth barhaus i'r gwasanaeth, a werthfawrogir yn fawr.