Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau brys i gyngor Gwarchod gan Brif Swyddog Meddygol Cymru

Dydd Mercher 23 Rhagfyr

Oeddech chi'n gwarchod eich hun o'r blaen?

Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ein cyngor. Ni ddylech fynychu gwaith neu ysgol y tu allan i'r cartref mwyach. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych gysylltiad agos rheolaidd â phobl eraill neu os ydych yn rhannu gweithle sydd wedi'i awyru'n wael am gyfnodau hir.

Mae hyn yn dilyn cynnydd sylweddol mewn cyfraddau heintio, o bosibl oherwydd amrywiolyn newydd y coronafeirws.

Bydd y Prif Swyddog Meddygol yn ysgrifennu at bawb a oedd gynt yn gwarchod eu hunain i gadarnhau'r cyngor hwn.

Gweler llythyr y Prif Swyddog Meddygol ar wefan Llywodraeth Cymru: Datganiad Ysgrifenedig: Cyngor newydd i'r rhai sy'n hynod o fregus yn glinigol - yn 'cysgodi' o'r blaen (22 Rhagfyr 2020) | GOV.WALES