Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i Ymweld â'r Ysbyty / Ward (Gorffennaf 2021)

12fed Gorffennaf 2021

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cydnabod fod ymwelwyr yn allweddol i les cleifion ac rydym wedi bod yn ymroddedig i ganfod ffyrdd i hwyluso cyfyngiadau ymweld yn y ffordd fwyaf diogel posibl. Mae canllawiau ymweld wedi eu diweddaru unwaith eto yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 5 Gorffennaf 2021. Byddwn yn adolygu’r broses ar gyfer ymweliad yn barhaus yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a’n sefyllfa leol parthed trosglwyddiad Covid.

Rydym yn deall pa mor anodd fu’r cyfyngiadau ymweld, ond rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein cymunedau sydd wedi ein galluogi i leihau effaith y firws. Mae’n allweddol ein bod yn atal lledaeniad y firws yn ein hysbytai, gan gadw cleifion, teuluoedd a staff yn ddiogel.

Yn bwysicaf oll, mae angen rhoi ystyriaeth i ymweld gyda diben pendant a bod unrhyw ymweliad yn digwydd er lles y claf. Fe gynhelir y trafodaethau hyn gyda’r claf, neu ofalwr, ar dderbyn i'r ysbyty. Gallwn hwyluso ‘rhith ymweliad’ trwy ddyfeisiau electronig yr ysbyty, ac mae modd trefnu hyn gyda Rheolwr y Ward neu'r Brif Nyrs.

Rhaid cydnabod y gall trosglwyddiad yn y gymuned newid yn gyflym a bod cydnabyddiaeth gyffredinol o'r cyswllt rhwng trosglwyddiad cymunedol ac ysbyty, ac felly byddai angen i ni ailgyflwyno cyfyngiadau ymweld dan amgylchiadau o'r fath.

 

Mae’r canllaw hwn ar gyfer ymweliadau i wardiau YN UNIG. Mae gan ardaloedd arbenigol eu canllawiau ymweld eu hunain. Yr ardaloedd sydd wedi eu heithrio o'r canllaw hwn yw:

  • Gofal Critigol
  • Adran Argyfwng
  • Ardaloedd Asesu Argyfwng
  • Pediatreg
  • Mamolaeth

 

Canllawiau Ymweld mewn Parthau Gwyrdd

(parthau gwyrdd yw ble mae gennym gleifion wedi eu categoreiddio fel rhai bregus neu sy'n derbyn llawdriniaeth ddewisol a fydd wedi ynysu cyn eu derbyn)

Ni fydd y cyhoedd yn cael ymweld â Pharth Gwyrdd heblaw am dan amgylchiadau eithriadol. Gellir cynnig dulliau cyfathrebu eraill – h.y. rhith ymweliadau ac/neu wasanaethau negesu.

 

Canllawiau Ymweld mewn Parthau Ambr

(parthau ambr yw ble bydd gennym gleifion cyffredinol a bennwyd i fod yn rhydd o Covid)
  • Rhaid archebu ymweliadau o flaen llaw i sicrhau cydymffurfiad llawn â mesurau cadw pellter cymdeithasol ac y cedwir at yr holl gyfyngiadau.
  • Bydd unrhyw gytundeb i ymweld yn ddibynnol ar brawf llif unffordd Covid-19 neu brawf PCR negyddol.
  • Bydd prawf llif unffordd Covid-19 positif yn golygu na all yr ymweliad ddigwydd a bydd angen i chi gael prawf PCR i gadarnhau.
  • Bydd pob ymweliad wyneb yn wyneb yn cael eu dyrannu yn ôl doethineb y ward ac maent yn amodol i gymeradwyaeth gan y clinigydd/prif nyrs. Mae’n allweddol eich bod yn gwirio a chydymffurfio gyda threfniadau cyn mynychu’r ysbyty er mwyn osgoi cael siom.
  • Ni chaiff ymwelwyr sy'n mynychu'r ysbyty heb gymeradwyaeth o flaen llaw fynediad i'r Ysbyty/ward.
  • Er mwyn atal lledaeniad haint yn yr ysbyty, bydd ymweliadau yn cael eu caniatáu dim ond wedi cadarnhad ar ran unrhyw ymwelydd:
    • Nad oes ganddo/ganddi symptomau Covid-19:
      • Peswch parhaus o'r newydd?
      • Colli synnwyr blasu ac arogli?
    • Wedi gwella’n llwyr o Covid-19 a heb gyswllt gwybodus gydag unrhyw un sydd â Covid-19 yn ystod 14 niwrnod diwethaf.
    • Dim hanes o deithiau tramor diweddar (o fewn y 10 niwrnod diwethaf) o wlad ar y rhestr goch neu ambr.
    • Wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi teithio dramor ble dylent fod yn ynysu am 10/14 niwrnod, yn ddibynnol ar os yw'r wlad ar y ‘rhestr goch’ neu ‘restr ambr’.
  • Bydd yna uchafswm nifer ymwelwyr a gaiff fynychu'r ward ar unrhyw adeg er mwyn lleihau'r niferoedd yn lleoliad yr ysbyty ac i ddilyn y cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol.
  • Er mwyn sicrhau ymweliadau teg ac a reolir, mae’n hynod annhebygol y byddwch yn cael ymweld pob dydd.
  • Wrth fynychu lleoliad yr ysbyty, rhaid i chi fynychu ar eich pen eich hun oni bai y cytunir fel arall.
  • Cyrhaeddwch yn brydlon, peidiwch â chyrraedd yn gynnar.
  • Mae gan fwyafrif ein safleoedd ysbyty hyb ymwelwyr. Rhaid i ymwelwyr fynd yn syth i'r Hyb Sgrinio Ymwelwyr a phan fydd yr ymweliad wedi gorffen rhaid gadael ar unwaith – ni chaniateir i ymwelwyr ddefnyddio unrhyw fwyty na chyfleusterau eraill (ar wahân i'r cyfleusterau toiledau ymwelwyr) yn lleoliad yr ysbyty. Fe ddangosir i ymwelwyr sut i wisgo a diosg Cyfarpar Diogelu Personol (PPE).
  • Ar gyfer ysbytai ble nad oes Hyb Ymwelwyr, cysylltwch â’r ward yn uniongyrchol a byddant yn gallu rhoi cyfarwyddiadau i chi ar y broses gywir i'w dilyn er mwyn cefnogi eich ymweliad.
  • Ni ddylai ymwelwyr ddod i mewn i'r ward nes eu bod wedi cwblhau manylion cyswllt Profi Olrhain Diogelu yn llawn.
  • Rhaid i ymwelwyr ddilyn rhagofalon cadw pellter cymdeithasol (dau fetr ar wahân), PPE, hylendid dwylo a rheoli heintiau yn ôl cyfarwyddyd y ward. Rhaid gwisgo mwgwd llawfeddygol newydd wrth gyrraedd y ward/ysbyty.
  • Cyfrifoldeb staff y ward fydd sicrhau bod ymwelwyr yn cydymffurfio'n llawn gyda gofynion PPE ac fe ofynnir i ymwelwyr adael os ceir diffyg cydymffurfiad.
  • Dim ond un ymwelydd all fynychu ar gyfer yr ymweliad cyfan – bydd hyn yn gyfyngedig i uchafswm o un awr er mwyn hwyluso glanhau rhwng ymwelwyr.
  • Mae’n ofyniad i bawb dros 11 oed wisgo mwgwd wyneb oni bai bod rheswm cysylltiedig i iechyd dros beidio gwisgo un (bydd angen tystiolaeth o'r eithriad rhag gwisgo mwgwd).
  • Ar gyfer ymwelwyr sydd wedi eu heithrio rhag gwisgo mygydau – dylai ymweliadau ddigwydd mewn ystafell sengl gyda’r disgwyliad y bydd y claf yn gwisgo mwgwd.
  • Ni fydd plant dan 11 oed yn cael ymweld oni bai bod yr amgylchiadau’n eithriadol.
  • Ble fo'n bosibl, fe ganiateir ymweliadau tu allan i’r ysbyty. Bydd y ward yn cynghori os yw hyn yn bosibl.

 

Canllawiau Ymweld mewn Ardaloedd Parth Coch

(parthau coch yw ble mae gennym gleifion gyda Covid neu haint arall ac/neu ble mae yna achos o haint)

Canllaw heb ei newid – mae’r cyfyngiadau blaenorol yn dal yn weithredol.

Rhaid cadw at yr holl ragofalon a ddisgrifir yn y cyfyngiadau ymweld ambr.

Yn ogystal â hyn:

  • Rhaid i ymwelwyr fod yn ymwybodol o'r risgiau o drosglwyddo COVID a’u cynghori o unrhyw fesurau rheoli haint sy'n weithredol, gan gynnwys defnyddio unrhyw PPE sydd angen yn ystod eu hymweliad.
  • Mae’r pandemig wedi cydnabod bod ymwelwyr o’r un aelwyd yn aml yn symptomatig hefyd. Mewn sefyllfaoedd diwedd oes, gall y tîm Atal a Rheoli Haint ddarparu cyngor ar sut gall ymwelwyr o'r fath ymweld â chlaf sydd ar ddiwedd ei oes yn ddiogel.
  • Gall cleifion sydd yn y cyfnod diwedd oes sydd wedi eu diagnosio â Covid dderbyn ymwelwyr yn ystod oriau olaf eu hoes, os ceir caniatâd o flaen llaw gan y Brif Nyrs. Gallai hyn fod yn hyd at ddau ymwelydd, gydag un ger y gwely ar y tro, am gyfnod penodol o amser, yn ddelfrydol o'r un aelwyd neu ran o aelwyd estynedig*.
  • Dylid cynghori ymwelwyr gyda chyflyrau iechyd isorweddol, neu a oedd yn cysgodi'n flaenorol, o'r risgiau arwyddocaol iddynt eu hunain o ymweld.

*Aelwydydd estynedig yw ble mae dwy aelwyd unigol wedi dod ynghyd ac mae ganddynt yr un rhyddid â phobl yn byw mewn aelwydydd unigol fel gallu cwrdd dan do a chyswllt corfforol agos.