Neidio i'r prif gynnwy

Newidiadau i'n Gwasanaethau o Ddydd Llun 14eg Rhagfyr 2020...

Dydd Gwener, 11 Rhagfyr 2020

O Ddydd Llun 14 Rhagfyr, byddwn yn gwneud newidiadau i rai o'n gwasanaethau. Nid ar chwarae bach y bu i ni wneud y penderfyniad hwn, fodd bynnag o ganlyniad i drosglwyddiad cynyddol Covid-19 o fewn ein cymunedau, ar y cyd â galw arferol y gaeaf ar ein gofal brys, mae'n cael effaith fawr ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau arferol.

Byddwn yn gwneud y newidiadau canlynol i'n gwasanaethau:

• Bydd yr holl glinigau nad ydynt yn frys yn cael eu gohirio - bydd cleifion gwasanaethau canser a'r rheiny y mae angen gofal clinigol brys arnynt yn parhau i gael eu gweld.

• Bydd yr holl driniaethau wedi'u cynllunio nad ydynt yn frys yn cael eu gohirio - bydd triniaethau ar gyfer cleifion canser a'r rheiny y mae angen gofal clinigol brys arnynt yn parhau. Byddwn yn gweithio i sicrhau y rhyddheir cleifion sy'n ffit yn feddygol, nad oes angen gofal ysbyty arnynt mwyach, yn gyflym ar ôl asesiad risg.

• Bydd gwasanaethau endosgopi a radioleg (pelydr-x) yn parhau'r un fath ac ni fydd triniaethau ar gyfer cyflyrau ar y galon yn cael eu gohirio. Bydd ein rhaglen frechu Covid-19 yn cael ei blaenoriaethu hefyd.

• Ni effeithir ar ein gwasanaethau iechyd meddwl i blant ac oedolion gan y newidiadau hyn

Byddwn yn parhau i'ch annog i #DewisYnDdoeth ac yn y lle cyntaf ewch i Wiriwr Symptomau GIG 111

Os oes angen cymorth pellach arnoch, ffoniwch 111 neu cysylltwch â'ch Meddyg Teulu neu Fferyllydd Cymunedol. Os oes gennych unrhyw symptomau sy'n peryglu bywyd, ffoniwch 999.

Diolch i chi am eich cefnogaeth a'ch dealltwriaeth barhaus.