Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs Arweiniol yn Esbonio Profiad Gwaith Brechu Torfol Newydd ar gyfer Myfyrwyr Nyrsio

Dydd Llun 8 Chwefror 2021

Mae Pandemig Covid-19 wedi arwain at y rhaglen frechu fwyaf a welsom yn ystod ein hoes. Mae hyn, wrth gwrs, wedi arwain at lawer o heriau. Fodd bynnag, mae hefyd wedi cynnig llawer o gyfleoedd na fyddent fel arfer ar gael.

Oherwydd hyn, rydym yn falch iawn o fod yn treialu lleoliad profiad gwaith newydd yn ein Canolfannau Brechu ar gyfer myfyrwyr nyrsio yn ardal ein Bwrdd Iechyd.

Mae'r lleoliad newydd hwn yn cynnig cyfle hollol unigryw i'n myfyrwyr nyrsio, lle byddant yn ennill llwyth o brofiad a gwybodaeth cyn iddynt gymhwyso.

Mae'r Nyrs Arweiniol, Linda Jones, yn esbonio'r hyfforddiant y mae myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn y profiad hwn wedi'i gael er mwyn iddynt ymuno â hi i frechu cleifion yn ein Hysbytai, a'r llu o gyfleoedd sydd ar gael iddynt.

 

Ein Nyrsys Myfyrwyr

Ar hyn o bryd mae Nyrsys Myfyrwyr, Abbie (yn y llun, chwith) ac Alice (yn y llun, dde) yn gweithio yn ein Rhaglen Brechu Torfol fel rhan o'u lleoliadau prifysgol.

Mae'r ddau fyfyriwr wedi'u lleoli yn y ganolfan hyfforddi imiwneiddio, ein Canolfan Brechu Torfol yng Nghwmbrân. Ar ôl cael trefn hyfforddi lawn a derbyn cefnogaeth un i un gan eu Hwyluswyr Addysgwyr Ymarfer, maent bellach yn rhoi brechlynnau i gleifion preswyl Ysbyty fel rhan o'n Tîm Brechu Symudol. Wrth i ni ddilyn canllawiau JCVI i frechu cleifion cymwys yn ein hysbytai, mae gan y Tîm Brechu Symudol amserlen i ymweld â'n holl Ysbytai erbyn canol mis Chwefror.

Mae'r ddau fyfyriwr yn ddiolchgar iawn am y cyfle unigryw hwn. Mae'r myfyriwr, Abbie, yn egluro mwy yn y fideo isod: