Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs ED yn Dychwelyd i'r Gwaith Flwyddyn ar ôl bod ar ICU gyda Covid-19

Dydd Mercher 24 Mawrth 2021

Yr wythnos hon ,mae Cindy Sulit, Nyrs annwyl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi dychwelyd i'w rôl yn yr Adran Achosion Brys bron i flwyddyn ar ôl iddi fynd yn ddifrifol wael gyda Covid-19.

Ar ôl contractio Covid-19, dirywiodd cyflwr Cindy yn gyflym a derbyniwyd hi i'r Uned Gofal Dwys a'i rhoi ar beiriant anadlu am dros dair wythnos.

Tra yn ITU, Ymgynghorydd yn gofalu am Cindy oedd Dr Nick Mason. Yn Ffotograffydd Dogfennol ardderchog, creodd Dr Mason ddyddiadur ffotograffig o amser Cindy yn yr Ysbyty a'i ddisgrifio fel “un o'r cleifion sâl a gawsom a oroesodd”.

Yn ffodus, fe wnaeth cyflwr Cindy wella'n araf ac yn y diwedd llwyddodd i ddychwelyd adref ar ei phen-blwydd ar ôl curo Covid-19.

Meddai: “Hwn oedd y pen-blwydd gorau erioed. Roedd y staff yn anhygoel, ni wnaethon nhw rhoi’r gorau arna i a dyna’r rheswm fy mod i’n fyw heddiw.”

Yr wythnos diwethaf, adunwyd Cindy a Dr Mason am y tro cyntaf ers ei harhosiad yn yr Ysbyty, lle llwyddodd Cindy i weld y ffotograffau yr oedd Dr Mason wedi'u tynnu ohoni. Cipiodd y ffotograffau eiliadau ingol trwy gydol taith Cindy, o fod mewn Gofal Dwys, iddi gymryd ei chamau cyntaf wrth iddi ddysgu cerdded eto, iddi gael ei rhyddhau adref o'r diwedd ar ei phen-blwydd.

Uchod: adunodd Cindy a Nick am y tro cyntaf ers iddi gael ei rhyddhau o'r Ysbyty

 

Cindy ar beiriant anadlu

 

 

Cindy yn paratoi i gymryd ei chamau cyntaf

Cindy yn ystod ei hadsefydliad

 

Cindy yn gadael yr Ysbyty

Dydd Sadwrn diwethaf, dychwelodd Cindy i weithio yn Adran Achosion Brys Ysbyty Athrofaol Y Faenor, er mawr lawenydd i'w chydweithwyr. Yno, fe’i hadunwyd â nifer o’i chydweithwyr, gan gynnwys Sara, a oedd wedi gofalu am Cindy ar sawl achlysur yn ITU.

Ar ôl ei shifft 6 awr gyntaf mewn bron i flwyddyn, dywedodd Cindy “Rwy’n hapus iawn i fod yn ôl. Fe allwn i fod wedi gweithio 6 awr ychwanegol!”

Croeso yn ôl, Cindy!

Diolch i Dr Nick Mason o Summit Photographs am gipio'r adegau hyn.

Cindy flwyddyn yn ddiweddarach o'i dioddefaint

Cindy ar ei shifft gyntaf yn ôl yn ED

Cindy gyda chydweithiwr a oedd yn gofalu amdani yn ICU

 

Ailymunodd Cindy gyda'i chydweithwyr

 

Bydd Nick Mason a Cindy yn ymddangos ar The One Show ar BBC One heno am 7pm.