Mae gennym gyfle cyffrous iawn i ymuno â'r sefydliad fel ein Prif Weithredwr newydd!
Mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn un o’r rolau mwyaf proffil uchel a phwysig o fewn GIG Cymru, ac ni fu erioed amser gwell i ymuno â ni. Yn dilyn agor ein Canolfan Gofal Arbenigol a Chritigol bwrpasol dim ond 18 mis yn ôl, byddwch yn cymryd y rôl arweiniol wrth ein helpu i wreiddio modelau gofal newydd ar draws ein system iechyd, datblygu gwaith partneriaeth a chefnogi llesiant ein staff.
Bydd ein cynlluniau uchelgeisiol yn ein cefnogi i sicrhau dyfodol iachach i’n cymunedau, tra’n sicrhau adferiad gwasanaethau yn dilyn effaith y pandemig COVID.
Ydych chi'n barod am yr her? Darllenwch yr hysbyseb swydd lawn a gwnewch gais am y swydd hon a lawrlwythwch y pecyn recriwtio.
Dyddiad cau: Dydd Mawrth 28 Mehefin 2022
Edrychwn ymlaen at eich cwrdd!