Mae holl Ysbytai Prifysgol Aneurin Bevan yn Ddi-Fwg. Mae'n anghyfreithlon ysmygu ar dir yr ysbyty a gallai unrhyw un sy'n ysmygu mewn ardaloedd di-fwg gael dirwy o £100.
Cefnogwch ein polisi trwy beidio ag ysmygu yn unman ar dir yr ysbyty. Trwy beidio ag ysmygu yn y lleoedd hyn, byddwch yn osgoi niweidio pobl sy'n agored i niwed ac yn helpu i gadw ein hysbytai yn lleoedd glân a diogel i bawb sy'n eu defnyddio.
Rydyn ni yma i'ch cefnogi chi gyda Gwasanaethau Stopio Ysmygu GIG am ddim, os ydych chi'n barod i roi'r gorau iddi.
Ewch i www.helpmequit.wales i gael cefnogaeth am ddim gan y GIG i roi'r gorau i ysmygu.