Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae Meddygfeydd Teulu yn gweithio'n wahanol ar hyn o bryd?

Dydd Iau 21 Hydref 2021

Mae ein Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol a Meddyg Teulu, Liam Taylor, yn trafod pam mae Practisau Meddyg Teulu’n gweithredu mewn ffordd wahanol ar hyn o bryd, a’r gofynion sylweddol mae practis cyffredinol yn eu hwynebu ers pandemig Covid.

Mae pob un o’r 72 o bractisau meddygon teulu ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi parhau ar agor drwy gydol y pandemig ac yn parhau i ddarparu gofal yn unol â chanllawiau cenedlaethol.

Gyda phwyslais ar ffonio yn gyntaf i leihau’r risg o drosglwyddo COVID, mae hyn, heb os, wedi rhoi mwy o straen ar eu systemau ffôn.  I gefnogi hyn, mae ein practisau lleol wedi cyflwyno ffyrdd eraill i gleifion gysylltu â’u Practis Meddyg Teulu i hwyluso a chefnogi mynediad at gyngor, gan gynnwys Attend Anywhere, AccuRX ac E-ymgynghoriad. Mae practisau wedi mabwysiadu dull cyfunol, yn cynnig ymgynghoriadau o bell ac wyneb yn wyneb lle mae’n ddiogel gwneud hynny sy’n rhoi dewis i gleifion ynghylch sut i gysylltu â’u Practis Meddyg Teulu. Yn ogystal â hyn, mae’r llwyfan My Health On Line (MHOL) yn cynnig system trefnu apwyntiadau ac archebu ail-bresgripsiynau ar-lein, ac mae’n cael ei hyrwyddo a’i ddefnyddio’n eang ar draws practisau.

Mae Meddygon Teulu’n adrodd galw sylweddol, ac felly hefyd adrannau eraill o’r system gofal iechyd.

  • Mae cynnydd o 8% wedi bod mewn cysylltiadau ar gyfer Meddygon Teulu a Phractisau Meddygon Teulu o’i gymharu â’r adeg yma y llynedd - mae’r 72 o Bractisau Meddyg Teulu yn ein hardal yn ymgymryd â thua 73,277 o gysylltiadau cleifion mewn wythnos
  • Cafodd y 73,277 o gysylltiadau eu darparu gan dimau gofal sylfaenol gan gynnwys Meddygon Teulu, nyrsys, cynorthwywyr gofal iechyd, roedd 53% o’r apwyntiadau wedi’u cynnal o bell, 46% wedi’u cynnal wyneb yn wyneb ac 1% yng nghartrefi’r cleifion
  • Rydym yn brin o staff o tua 8% bob dydd ar draws ein bwrdd iechyd oherwydd salwch a hunan-ynysu

Rydym yn deall rhwystredigaeth a phryderon ein cleifion, fodd bynnag, gallwn eich sicrhau bod ein timau practisau wedi ymrwymo i ddarparu gofal i’n holl gleifion, wrth fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio yn unol â pholisi cenedlaethol a chyfyngiadau cymdeithasol. Mae pawb yn gweithio’n galed i gynnig y gofal gorau posibl, gan sicrhau bod y rheiny sydd mewn mwy o berygl yn cael blaenoriaeth.

Yn ogystal â’u llwyth gwaith practis arferol, mae Practisau Meddygon Teulu wedi cyfrannu’n uniongyrchol at lwyddiant y rhaglen frechu COVID-19, yn rhoi tua 225,650 o frechiadau ar draws ardal ein Bwrdd Iechyd dros y misoedd diwethaf.