Neidio i'r prif gynnwy

'Parti Clytiog' a gynhelir gan Orthoptwyr yn Ysbyty Brenhinol Gwent!

Dydd Iau 31 Awst 2023

Cynhaliodd orthoptyddion yn Ysbyty Brenhinol Gwent ABUHB 'Patch Party' ar 18fed o Awst! Roedd y parti i gyd-fynd â dathliadau GIG75. Roedden nhw ychydig yn hwyr i’r parti gan fod rhaid aros am wyliau ysgol er mwyn dathlu gyda’r plant!

Nod y parti oedd annog cleifion ifanc sydd ar hyn o bryd yn cael triniaeth ar gyfer 'llygad diog' - sy'n cael ei adnabod yn feddygol fel Amblyopia.

Amblyopia yw'r achos mwyaf cyffredin ar gyfer golwg gwan y gellir ei drin mewn plant ifanc.

Gall amblyopia neu lygad diog ddigwydd mewn plant sydd angen sbectol, neu sydd â llygad croes (llygad sy'n troi i mewn neu allan). Mae atgyfeirio at Orthoptydd yn hanfodol gan fod tystiolaeth yn dangos bod triniaeth yn fwyaf effeithiol pan fo plentyn yn llai nag 8 oed. Felly mae angen triniaeth brydlon yn dilyn diagnosis, gan arwain at well canlyniad i'r claf yn dilyn triniaeth.

Gellir trin amblyopia mewn amrywiaeth o ffyrdd, er mwyn galluogi'r weledigaeth i ddatblygu'n arferol. Weithiau bydd sbectol yn unig yn gwella golwg heb fod angen triniaeth ychwanegol. Weithiau, hyd yn oed ar ôl i sbectol gael eu rhagnodi i'r claf, efallai y bydd angen ysgogiad ychwanegol ar y llygad gwannach; felly, yn yr achosion hyn, bydd therapi clwt neu achludiad yn cychwyn.

Mae triniaeth achludiad ar ffurf gorchuddio'r llygad cryfach gyda chlwt neu weithiau diferyn llygad sy'n cymylu gweledigaeth y llygad cryfach, sydd yn ei dro yn gorfodi'r llygad gwannach i wella.

Yn aml gall plant fod yn amharod i wisgo darn llygad, felly syniad y parti oedd i'r plant gael hwyl gydag eraill sy'n cael triniaeth a hefyd roedd rhieni'n gallu sgwrsio a chymharu strategaethau ar gyfer annog eu plentyn i gydymffurfio â thriniaeth.

Cafodd y rhai oedd yn gallu mynychu’r parti amser llawn hwyl (fel y gwelir yn y ffotograffau!); ac mae'r adran eisoes yn edrych ymlaen at yr un nesaf!

Llongyfarchiadau mawr i Charlie a wisgodd ei batsh am y tro cyntaf yn y parti – rydym mor falch ohonoch!

Hefyd 'Diolch yn fawr!' i Tesco Risca am roi danteithion i'r plant, Carrie Hopkins Rheolwr Cyfarwyddiaeth Offthalmoleg am ei rhodd ariannol a chleifion allanol Offthalmoleg am fenthyg eu man aros!

Mae adborth gan rieni a fynychodd y digwyddiad wedi bod yn hynod gadarnhaol gyda llawer yn gofyn ‘pryd mae’r un nesaf?’.

Tra bod rhieni eraill wedi dweud ei fod yn ‘syniad ardderchog’ ac yn dweud ‘ein bod ni wedi mwynhau cymaint!’.

Dywedodd un o’r cleifion oedd yn aros am driniaeth ‘roedd hi mor hyfryd gweld y plant yn cael amser mor hwyliog!’

Dywedodd Nicola Turner (Prif Orthoptydd) eu bod yn edrych i gynnal 'Patch Parties' yn y dyfodol gyda'r un nesaf yn cael ei gynllunio cyn diwedd y flwyddyn gobeithio!