Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaid yng Ngwent yn Lansio Prosiect 'Cludiant at Iechyd'

Dydd Llun 19 Gorffennaf

Mae prosiect newydd wedi'i sefydlu i gefnogi trafnidiaeth gymunedol i ysbytai ac adeiladau eraill y GIG ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Gall darparwyr trafnidiaeth wneud cais am arian grant sydd ar gael trwy'r prosiect 'Cludiant at Iechyd' o heddiw, Dydd Llun 19 Gorffennaf 2021, i gefnogi twf a datblygiad trafnidiaeth hygyrch a chynhwysol. Mae'r cyllid ar gael i fentrau trafnidiaeth gymunedol presennol, i gefnogi datblygiad cynlluniau cludo cleifion newydd ac i annog partneriaethau newydd yn y sector.

Bydd trafnidiaeth gymunedol o fudd i breswylwyr sydd angen cyrchu safleoedd gofal iechyd ar gyfer apwyntiadau, neu ymweld ag anwyliaid.

Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng y Bwrdd Iechyd (BIPAB), Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Gwent (GAVO), Cymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol (CTA), Cynghrair Gwirfoddol Torfaen (TVA) a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO). Mae GAVO wedi penodi Cydlynydd Trafnidiaeth Gymunedol Ranbarthol i reoli'r prosiect.

Dywedodd Faye Mear, y Cydlynydd Cludiant Cymunedol Rhanbarthol: "Trwy fy ngwaith blaenorol, rwyf wedi gweld yr effaith gadarnhaol y gall cynlluniau trafnidiaeth gymunedol ei chael i alluogi preswylwyr i gyrraedd apwyntiadau pan fydd opsiynau teithio eraill yn gyfyngedig neu'n anhyfyw. Mae'n gyffrous i bod yn rhan o brosiect i ehangu darpariaeth trafnidiaeth gymunedol ar draws ardal gyfan y Bwrdd Iechyd. "

Dywedodd Gemma Lelliott, Cyfarwyddwr Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru: "Wrth i ni lywio realiti newydd yn sgil Covid 19, ni fu erioed mor bwysig diogelu a datblygu atebion trafnidiaeth sy'n wirioneddol weithio i'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu. Rydyn ni'n gwybod bod trafnidiaeth gymunedol yn darparu achubiaeth i bobl sy'n byw yn ardal y Bwrdd Iechyd, ac rydym yn gyffrous i fod yn rhan o'r dull partneriaeth newydd hwn o gefnogi a thyfu'r math hanfodol hwn o drafnidiaeth. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi gweithredwyr trafnidiaeth gymunedol newydd a phresennol i ddatblygu a gwella cysylltiadau i gleifion, ymwelwyr a staff sy'n cyrchu lleoliadau iechyd ardraws y rhanbarth."

 

I wneud cais am gyllid, cwblhewch y pecyn cais canlynol, y gellir ei gyrchu trwy'r ddolen ganlynol ar wefan GAVO.