Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Tracy Daszkiewicz yn Gyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus newydd Gwent

Bydd Tracy Daszkiewicz yn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Gwent ar 3 Ebrill.  Mae ganddi fwy na 25 mlynedd o brofiad yn gweithio gydag iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y GIG, Gwasanaeth Sifil, Llywodraeth Leol a’r Sector Gwirfoddol.

Mae gan Tracy hanes ym maes trawsnewid, newid system, a datblygu gwasanaethau i fodloni gofynion pobl leol. Tracy oedd Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Wiltshire yn Salisbury yn ystod y cyfnod gwenwyno ag asiant nerfol.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, Tracy Daszkiewicz, sydd newydd ei hapwyntio:

“Rwy’n frwd dros leihau bregusrwydd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Wrth i Went ddod yn Rhanbarth Marmot cyntaf Cymru, rwyf wrth fy modd yn ymuno â’r Bwrdd Iechyd i arwain y Tîm iechyd Cyhoeddus.

“Mae effaith incwm isel, ansefydlogrwydd swyddi, tai gwael a bod yn ynysig ar ein hiechyd yn anfesuradwy. Fy uchelgais ar gyfer Gwent yw lleoedd iachach, diogelwch, hawl i addysg ragorol, cartrefi cynnes, ffyniant, a chysylltiad cymunedol. Y blociau adeiladu hyn ar gyfer bywyd iachach a thecach yw’r hyn y mae gwaith Adeiladu Gwent Tecach yn ei hyrwyddo. 

“Yn fyr, rwy’n credu y dylai pob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd ac fel oedolyn lle mae gan bawb swydd, cartref a ffrind. Gyda’n gwaith â’r Tîm Iechyd Cyhoeddus a gyda’n partneriaid ledled Gwent, rwy’n edrych ymlaen at gynorthwyo pobl Gwent i fyw bywyd gwell a byw’n hirach.” 

Mae’r Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus, fel rhan o dîm gweithredol y Bwrdd Iechyd, yn gyfrifol am arwain a darparu amrywiaeth o raglenni hyrwyddo iechyd allweddol yng Ngwent, yn cynnwys Pwysau Iach, Rhoi'r Gorau i Ysmygu, Iechyd Meddwl a Llesiant, yn ogystal â bod â chyfrifoldeb am Ddiogelu Iechyd.

Dywedodd Nicola Prygodzicz, Prif Swyddog Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Mae’r swydd hon yn un allweddol wrth gynorthwyo ein cymunedau ledled Gwent i wneud dewisiadau da ynghylch eu hiechyd, yn bersonol ac ar gyfer eu teuluoedd. Bydd Tracy hefyd yn arwain yr ymateb diogelu iechyd i unrhyw argyfwng iechyd cyhoeddus pan fo angen. Rydym wrth ein bodd yn cael croesau Tracy i’r Bwrdd Iechyd ac rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith y bydd yn ei gael wrth arwain Tîm Iechyd Cyhoeddus Gwent yn cynorthwyo ein cymunedau ledled Gwent.”

 

Rhagor o Wybodaeth

Mae Tracy hefyd yn Is-lywydd y Gyfadran Iechyd Cyhoeddus yn ogystal ag Athro gwadd mewn Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr lle mae ganddi hefyd Ddoethuriaeth Anrhydeddus am gyfraniadau i iechyd Cyhoeddus, ac mae ganddi un arall o’r Brifysgol agored. Mae hi’n ddarlithydd gwadd mewn Diogelu Iechyd ym Mhrifysgol Caerwysg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Scott Wilson-Evans, Pennaeth Strategol Cyfathrebiadau, Iechyd Poblogaeth Scott.Wilson-Evans@wales.nhs.uk.