Neidio i'r prif gynnwy

Plant Sy'n Gysylltiadau Aelwyd Preswylwyr ag Imiwnedd Isel i Dderbyn Cwrs Sylfaenol o Frechiad Covid-19

Dydd Gwener 14 Ionawr 2021

Yn unol â chyngor JCVI ar frechu Covid-19 ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, bydd plant 5 i 11 oed sy'n gysylltiad aelwyd â phreswylwyr ag imiwnedd isel iawn yn cael cynnig cwrs sylfaenol o'r brechlyn Covid-19.

Er mwyn ein galluogi i adnabod unigolion a allai fod yn gymwys ar gyfer y brechiad hwn, rydym yn gofyn i rieni neu warcheidwaid sy'n credu bod eu plant yn perthyn i'r categori hwn i lenwi'r ffurflen ganlynol.

Unwaith i ni dderbyn y ffurflen hon, byddwn yn gwirio'r manylion a ddarparwyd i gadarnhau bod yr unigolyn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cyswllt aelwyd preswylydd ag imiwnedd isel iawn.

Wrth gyfeirio at Gyswllt Aelwyd, rydym yn golygu unigolion sy'n disgwyl rhannu llety byw bron bob dydd (ac felly y mae cyswllt agos parhaus yn anochel) ag unigolion sydd ag imiwnedd isel iawn.

Gall y rhai sy'n ansicr a oes ganddynt imiwnedd wan ddod o hyd i ddisgrifiad llawn o'r rhai sy'n dod o fewn y categori hwn ar wefan Llywodraeth y DU.

I gael rhagor o wybodaeth am frechu Covid-19, ewch i'n Tudalennau Brechu Covid-19 pwrpasol.