Neidio i'r prif gynnwy

Pryd i fynd i Uned Mân Anafiadau

Dydd Mawrth 26ain Ionawr 2021

Ers agor Ysbyty Athrofaol y  Faenor ym mis Tachwedd rydym wedi newid y ffordd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau.

Er mwyn ein galluogi i’ch trin mor gyflym â sy’n bosibl ac yn y modd mwyaf priodol mae'n bwysig eich bod yn mynychu'r adran sydd fwyaf addas ar gyfer eich anaf.

Mae ein Unedau Mân Anafiadau wedi'u lleoli yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Neuadd Nevill ac Ysbyty Ystrad Fawr. Mae'r rhain ar agor bob dydd, trwy'r dydd a'r nos. Mae gan Ysbyty Aneurin Bevan hefyd Uned Mân Anafiadau sydd ar agor rhwng 9:00 a 7:00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (mae’r uned ar gau ar benwythnosau a gwyliau’r banc).

Gellir trin ystod eang o anafiadau oedolion a phlant dros flwydd yn ein Hunedau Mân Anafiadau. Mae'r unedau yma yn cael eu rhedeg gan dîm profiadol a medrus o ymarferwyr nyrsio, nyrsys brysbennu, a gweithwyr cymorth gofal iechyd.

Gallwch ymweld ag un o'n hunedau gydag:

  • Anafiadau i aelodau, gan gynnwys esgyrn wedi torri (toriadau) a datgymaliad i fysedd a bysedd traed
  • Clwyfau, crafiadau a mân losgiadau
  • Anafiadau i'r pen sydd heb achosi i’r claf fod yn anymwybodol ac os nad yw’r claf yn cymryd cyffuriau teneuo gwaed
  • Anafiadau i’r wyneb sydd heb achosi i’r claf fod yn anymwybodol
  • Mân anafiadau i'r gwddf a'r cefn cyn belled bod y claf yn gallu symud, nad oes ganddo binnau a nodwyddau yn ei freichiau na'i goesau ac nad yw wedi cwympo o uchder sy'n fwy na phum gris neu 1m
  • Anafiadau i’r llygaid, i’r glust neu i’r trwyn gan gynnwys cyrff tramor
  • Anafiadau i’r asennau
  • Brathiadau gan bryfed, anifeiliaid a phobl

Byddwn yn gallu:

  • Rhoi pelydr-x ar gyfer anafiadau
  • Cau clwyfau gan gynnwys pwytho a gludo
  • Gosod gorchuddion
  • Gosod castiau plastr, sblintiau, strapiau a slingiau
  • Rhyddhau cymalau sydd wedi eu dadleoli, ond nid yn ddifrifol
  • Tynnu cyrff tramor
  • Golchi llygaid
  • Rhoi meddyginiaeth i drin yr anaf

Peidiwch â mynychu Uned Mân Anafiadau os oes gennych anaf neu salwch sy'n peryglu bywyd - ffoniwch 999.

Os ydych chi'n ansicr a ddylech chi ymweld ag Uned Mân Anafiadau neu peidio, ffoniwch 111 i gael help a chyngor.