Neidio i'r prif gynnwy

Rheolau Gwirion - Torri'r Rheolau Gwirion ar gyfer Gwell Gofal

Yn 2016, lansiodd yr Institute of Health Improvement (IHI) yn yr UD ymgyrch ‘Torri Rheolau er Gwell Gofal’  (a elwir hefyd yn ‘Rheolau Gwirion’), dan arweiniad yr arloeswr mewn gwelliant iechyd a Chomisiynydd Bevan, yr Athro Don Berwick. Nod y gwaith hwn oedd nodi 'rheolau diwerth' neu 'rwystrau gweinyddol' nad ydynt yn cyfrannu llawer neu ddim gwerth i ofal, sy’n rhwystro gwaith clinigwyr, yn rhwystro cleifion a theuluoedd, ac yn gwastraffu amser ac adnoddau eraill ar draws lleoliadau gofal iechyd.

 

Oherwydd ei lwyddiant a’i effaith aruthrol, mae’r fenter  ‘Rheolau Gwirion’ wedi parhau i ehangu ar draws y byd ac fe’i hystyrir yn arf hanfodol yn rhyngwladol i wella arferion a chanlyniadau i gleifion a staff, tra hefyd yn darparu dull o nodi cyfleoedd arbed costau a lleihau gwastraff ar draws y system.

 

Mae’r Bevan Commission, gan weithio mewn partneriaeth â’r Institute for Healthcare Improvement, yn rhannu arolwg byr gyda phawb sy’n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ac â’r cyhoedd yng Nghymru i gasglu eu barn am y ‘Rheolau Gwirion’ sy’n bodoli o fewn eu sefydliadau. Mae’r rhain yn rheolau / dulliau gweithio sydd i’w gweld yn rhwystro gofal da, diogel ac effeithlon, ac y gellid eu newid i sbarduno gwelliant eang a chyfleoedd arbed costau posibl.

 

Ar ôl y cyfnod arolygu, sy’n dod i ben ar 31 Ionawr, mae’r Bevan Commission yn bwriadu rhannu’r dysgu a gweithio gyda’r arweinwyr ar draws Cymru i nodi’r effaith y gallai newidiadau posibl ei chael ac i helpu i ddod o hyd i atebion i alluogi gwell gofal mwy effeithlon.

 

Dywedwch eich dweud – cymrwch yr arolwg  byr nawr! Am ragor o wybodaeth am y fenter, ewch i dudalen we Comisiwn Bevan: Rheolau Gwirion.