Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddion Angenrheidiol i Gleifion yn Ein Hysbytai

Gan ein bod wedi gorfod atal pawb rhag ymweld â'n Hysbytai i gyfyngu ar ledaeniad Coronafeirws, mae llawer o'n cleifion bellach yn rhedeg allan o bethau ymolchi a dillad nos glân.

Rydym yn ddiolchgar iawn i'n cymunedau am yr holl gynigion caredig o roddion, am gyflenwadau hanfodol a rhoddion ariannol, er budd ein cleifion a'n staff yn ystod yr amseroedd heriol hyn.

Os hoffech gyfrannu, byddem yn ddiolchgar iawn am yr eitemau canlynol (eitemau NEWYDD yn unig os gwelwch yn dda):

* Sylwch, ni allwn dderbyn unrhyw roddion bwyd nac unrhyw eitemau eraill (gan gynnwys trydanol) nad ydynt wedi'u cynnwys ar y rhestr hon. Peidiwch â chymryd unrhyw roddion i'n hysbytai.

Y ffordd hawsaf a gorau i chi roi yw defnyddio ein 'Rhestr Ddymuniadau' Amazon , gan nad oes angen i chi adael eich tŷ a bydd eitemau'n cael eu danfon yn uniongyrchol i ni. Defnyddiwch y ddolen hon i gael mynediad i'r Rhestr Ddymuniadau.

Os na allwch archebu o Amazon ond eich bod yn dymuno rhoi, a allech gysylltu â'r Tîm Gofal Sy'n Canolbwyntio Ar Yr Unigolyn ar 01495 768677 neu e-bostio: ffrindimi.abb@wales.nhs.uk , a allen nhw eich gynghori lle gellir gollwng unrhyw roddion.

Fel arall, os hoffech chi roi rhodd ariannol i helpu'ch Gwasanaethau GIG lleol, yna ewch i'n tudalen 'Just Giving'.

Ar ran ein cleifion a'n staff, hoffem ddiolch yn fawr i chi!

 

#AroswchYnDdiogel #AroswchAdref #AmddiffynwchYGIG