Yn gynharach heddiw, roedd ein Prif Weithredwr Dros Dro Glyn Jones, ynghyd â staff o Ysbyty Aneurin Bevan, yn falch iawn o dderbyn rhosyn wedi'i dyfu’n arbennig, o'r enw rhosyn Nye Bevan, ar ran y Bwrdd Iechyd.
Wedi’i gyflwyno gan Nick Smith AS, mae’r rhosyn sydd wedi’i dyfu gan David Austin, wedi cael ei blannu yn Ysbyty Aneurin Bevan heddiw, a bydd yn blodeuo'r flwyddyn nesaf. Byddwn wedyn yn croesawu Nick yn ôl i fwynhau harddwch gwirioneddol y rhosyn.
Diolch yn fawr iawn i Nick am y rhodd arbennig tu hwnt i Ysbyty Aneurin Bevan a’r Bwrdd Iechyd yn gyffredinol.