Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi gweld cynnydd yn y ffliw ac RSV ar draws ein safleoedd a'n cymunedau, ochr yn ochr â hyn rydym bellach yn gweld cynnydd sylweddol yn yr achosion o Norofeirws ledled Gwent ac mae hyn yn parhau i effeithio ar ein gwasanaethau. Rydym yn gofyn i bobl beidio ag ymweld ag anwyliaid yn unrhyw un o'n hysbytai os ydynt wedi bod yn sâl gyda symptomau dolur rhydd a chwydu, a dim ond ymweld os ydynt wedi bod yn rhydd o symptomau am o leiaf 48 awr.
Beth yw Norofeirws?
Norofeirws yw'r byg stumog mwyaf cyffredin yn y DU ac mae'n heintus iawn. Fel y ffliw, mae'n lledaenu'n gyflym mewn amgylcheddau caeedig fel ysbytai. Gellir ei ledaenu trwy gael cyswllt â pherson heintus a thrwy gyffwrdd ag arwynebau halogedig. Mae symptomau haint norofeirws fel arfer yn cynnwys:
Beth i'w wneud os ydych chi'n amau Norofeirws
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch dod i gysylltiad â'r feirws, y peth mwyaf diogel y gallwch ei wneud yw aros gartref. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella o’r norofeirws o fewn deuddydd, fodd bynnag, os yw'r symptomau'n parhau (mwy na 48 awr), ni ddylid dod i'r Adran Achosion Brys ond ffonio'r meddyg teulu neu GIG 111 Cymru.
Helpwch ni i gadw eraill yn ddiogel
Rydym yn annog pobl sydd wedi bod yn sâl gyda symptomau dolur rhydd a chwydu i beidio ag ymweld â'r ysbyty nes eu bod wedi bod yn rhydd o symptomau am 48 awr. Rydym hefyd yn gofyn i bobl aros gartref os ydynt wedi bod mewn cysylltiad ag aelod o'r cartref sydd wedi cael symptomau gan y gellir trosglwyddo'r feirws drwy'r cyswllt hwn hefyd. Mae hyn yn bwysig. Mae’r feirws yn heintus iawn a gall ffrindiau teulu neu berthnasau ddod ag ef i'r ysbyty. Mae'n hawdd lledaenu'r feirws trwy gyswllt â pherson sydd wedi'i heintio, yn enwedig trwy eu dwylo.