Neidio i'r prif gynnwy

Rôl Hanfodol y Groes Goch Brydeinig wrth Gynorthwyo'r Adran Achosion Brys

9 Mai 2023

Mae tîm y Groes Goch Brydeinig sy’n cynnwys 15 person yn cynorthwyo'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Maent yn cyfarch cleifion a’u teuluoedd, yn cynnig cymorth ar adegau heriol, drwy gydol eu cyfnod yn yr ysbyty, ac ar ôl cael eu rhyddhau.

Mae’r tîm, sef y Gwasanaeth Llesiant a Diogelwch Cartref, yn canolbwyntio ar gefnogi staff a chleifion yn yr Adran Achosion Brys. Maent hefyd yn ceisio sicrhau bod cleifion yn dychwelyd adref yn ddiogel ac yn treulio llai o amser yn yr ysbyty pan nad yw'n angenrheidiol ac felly'n rhyddhau gwelyau.

Dywedodd Judith Maggs, Rheolwr Tîm y Groes Goch Brydeinig, “Y pethau bach nad ydych yn meddwl amdanynt sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i helpu pobl, i helpu’r adran ac i helpu’r bobl rydym yn ymgysylltu â nhw.”

Yn ogystal â gollwng cleifion ar ôl eu rhyddhau o’r ysbyty, maent hefyd yn gwneud yn siŵr bod cartrefi cleifion yn ddiogel ac yn eu cyfeirio at wasanaethau eraill yn ôl yr angen, fel larymau tân neu ddefnydd nwy a thrydan. Maent yn cysylltu â gofalwyr, gweithwyr cymdeithasol, perthnasoedd agosaf, ac yn ffonio cleifion ar ôl iddynt ail-gartrefu er mwyn sicrhau eu diogelwch parhaus.

Ar ddiwrnod arferol, maent hefyd yn cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol i’r unigolion sy’n defnyddio’r Adran Achosion Brys, gan gynnig clust sympathetig i gleifion a’r gallu i ymateb i anghenion cleifion fel bwyd ar gyfer teuluoedd sy’n aros gyda nhw, a hyd yn oed gwefrwyr ffonau.

Maent hefyd yn cynorthwyo drwy gasglu meddyginiaeth a chanlyniadau profion, yn cyfeirio cleifion at wasanaethau eraill o fewn y gymuned yn ystod eu cyfnod yn yr Adran Achosion Brys, ac yn cynnig bwyd a diod i berthnasoedd sy’n mynychu’r ysbyty gyda chleifion.

Ym mis Mawrth eleni, roedd y gwasanaeth wedi cefnogi 2961 o gleifion ac wedi ail-gartrefu 122 o gleifion, gan arbed 3569 milltir o ran trafnidiaeth ac ail-gartrefu. Mae eu rôl allweddol wrth gefnogi’r Adran Achosion Brys yn glir, ac maent yn gwneud gwahaniaeth bob dydd.

Dywedodd perthynas i glaf: “Roeddwn wedi synnu eu bod wedi cynnig bwyd i mi, nid oeddwn yn disgwyl hynny. Ond mae hynny’n beth da oherwydd mae teuluoedd yn ei chael hi’n anodd, nid yn unig y plant, ond y rhieni hefyd.”

“Maent yn helpu nifer o bobl ifanc ac oedolion yn ystod cyfnodau heriol. Daliwch ati, rydych yn gwneud gwaith arbennig.” Ychwanegodd.

Dywedodd claf arall: “Roedd yn hyfryd gweld staff o’r Groes Goch yn yr ysbyty. Roeddwn ar ben fy hun, a daeth aelod o’ch staff caredig i eistedd gyda mi, gan fy mod yn nerfus i sgwrsio â’r doctor. Diolch o waelod calon.”

Dywedodd Dr Heledd Espley, Meddyg Arbenigol yn yr Adran Achosion Brys: “Mae’r Groes Goch yn amhrisiadwy i ni. Maent yn cynnig cymorth arbennig i’n cleifion Mae bob amser yn galonogol gwybod bod ein cleifion yn mynd adref yn ddiogel, a’u bod yn cael gofal o fewn y gymuned, bod pobl yn cadw llygad arnynt, a bod pobl yn mynd â phecynnau bwyd a phethau erall iddynt yn rheolaidd.