DATGANIAD WEDI DIWEDDARU 21/11 16:45
Rydym yn falch o gadarnhau bod gennym bellach gapasiti sganio CT yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth dros y 24 awr ddiwethaf.
DATGANIAD WEDI DIWEDDARU 21/11 09:25
Yn anffodus, mae'r materion yn parhau heddiw. Mae yna beirianwyr ar y safle yn Ysbyty Athrofaol y Faenor sydd wedi bod yno ers ddoe. Gobeithiwn y bydd y mater hwn yn cael ei ddatrys yn fuan a byddwn yn eich diweddaru. Diolch am eich amynedd a'ch dealltwriaeth.
DATGANIAD WEDI DIWEDDARU 20/11 20:30
Parthed y sefyllfa yn Ysbyty Athrofaol y Faenor gyda 2 sganiwr CT ar hyn o bryd ddim yn gweithio.
Os ydych chi angen triniaeth feddygol neu brys eleni gofynnwn i chi beidio mynychu Ysbyty Athrofaol y Faenor heb alw 111 neu 999 yn gyntaf er mwyn gwirio eich bod wedi brysbennu yn iawn a'ch cyfeirio at y lleoliad cywir.
Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anhawster gall hwn achosi a diolch i chi am eich amynedd parhaus wrth fod ni'n gweithio i ddatrys y sefyllfa.
Byddwch yn ymwybodol bod 2 o’n sganwyr CT yn ysbyty Athrofaol y Faenor dim yn gweithio ar hyn o bryd. Mae ein timau yn gweithio i ddatrys y broblem.
Yn y cyfamser, mae trefniadau amgen wedi rhoi yn ei le i ddarparu sganiau i gleifion, er gall cleifion sydd yn ymweld â’n Huned Argyfwng heno (yn enwedig y rhai sydd mewn cyflwr nad ydy’n peryglu bywyd) profi oedi hirach na’r arfer.
Diolch am eich amynedd a dealltwriaeth.