Neidio i'r prif gynnwy

Staff BIPAB yn rhoi cynnig ar Pen y Fan!

Mae llesiant meddwl ein staff yn bwysig iawn i ni. Ddydd Sadwrn, arweiniodd y tîm Adfer Drwy Chwaraeon gydweithwyr eraill y Bwrdd Iechyd ar daith gerdded llesiant ar un o lwybrau mwyaf poblogaidd Cymru, i fyny Pen y Fan, y copa uchaf yn Ne Cymru, wedi ei leoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cymerodd dros 25 aelod o staff, o ystod o arbenigedd, ran yn y daith yn cynnwys iechyd meddwl ac anghenion dysgu, gofal alcohol ac adsefydlu niwrolegol i enwi dim ond rhai. Mae’r aelodau hyn o staff, sy’n gweithio’n galed, wedi blaenoriaethu edrych ar ôl eu llesiant a chadw’n actif.

 

Kevin Hale, Ymarferydd Cynorthwyol y Gwasanaeth Seiciatreg Fforensig ac aelod allweddol o’r tîm Adfer drwy Chwaraeon ynghyd â’i gydweithwyr drefnodd y daith llesiant.

Dywedodd Kevin, “Fy rheswm dros drefnu taith gerdded llesiant oedd fy mod yn credu bod staff yn gweithio mor galed yn y gwaith.”

“Mae’n gyfle i staff gyfarfod, ymlacio a chwrdd â phobl newydd o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd ac rwy’n credu bod llesiant staff mor bwysig i’n cynorthwyo i allu darparu’r gofal gorau bosibl.”

 

 

 

Dywedodd Esther, sy’n aelod o staff a gymerodd ran yn y daith gerdded, “Cawsom amser da, mae’n braf cael mynd mewn criw o bobl yn hytrach nag ar eich pen eich hun.”

 

 

Yn dilyn llwyddiant y daith gerdded llesiant cyntaf, bydd y tîm Adfer Drwy Chwaraeon yn parhau i gynorthwyo ein staff ar draws y Bwrdd Iechyd i wella eu llesiant gyda theithiau cerdded pellach bob 4-6 wythnos gan archwilio lleoliadau teithiau cerdded eraill o amgylch Cymru.