Neidio i'r prif gynnwy

Stori Graham

Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 

Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom eich cyflwyno i 'Aneura mewn Feisor', ein Cynghorydd Diogelwch Covid sy'n cyfleu negeseuon allweddol i'n haelodau staff a'r cyhoedd ynghylch dilyn canllawiau rheoli heintiau, gan gynnwys; gwisgo PPE, golchi dwylo a phellter cymdeithasol.

Yr wythnos hon rydyn ni'n dod â stori Graham atoch chi. Ar ddechrau'r Pandemig, roedd Graham yn hunan-ynysu gyda'i ferch. Yn dilyn cwymp gartref, cafodd ei dderbyn i'r ysbyty lle cadarnhawyd ei fod wedi torri aswgrn. Roedd y teulu'n paratoi ar gyfer ei ryddhau. Yn anffodus, fe gontractiodd Graham Covid ac ni ddaeth adref erioed.

Mae stori Graham yn dangos sut mae COVID wedi effeithio’n bersonol ar ein staff ein hunain yn ogystal â gofalu am ein cleifion y mae COVID yn effeithio arnynt.

Cymerwch gip ar Stori Graham sy'n cael ei hadrodd gan ei ferch yng nghyfraith, a'n cydweithiwr Claire Jordan. Efallai y bydd rhywfaint o'r cynnwys hwn yn peri gofid i chi.