Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Iechyd Cyhoeddus y Bwrdd Iechyd yn Helpu Plant Gwent i Gofleidio Ffyrdd Egnïol ac Iach o Fyw Yn ystod Gwyliau'r Haf

Yr haf hwn, mae plant ledled Gwent wedi bod yn cadw'n heini ac yn dysgu sgiliau bywyd gwerthfawr yn ystod eu gwyliau ysgol. Ymwelwyd ag Ysgol Gymraeg Caerffili, lle'r oedd un o'n dyddiau 'Bwyd a Hwyl' poblogaidd yn ei anterth. Roedd Matt, maethegydd o'n Tîm Deieteg Iechyd y Cyhoedd, wrth law i gefnogi'r fenter.

 

Mae Ysgol Gymraeg Caerffili ymhlith 42 o ysgolion yng Ngwent sydd wedi cael eu hyfforddi gan ein tîm Iechyd Cyhoeddus ar y cwrs 'Sgiliau Maeth am Oes'. Gyda'r hyfforddiant hwn, mae staff ysgol wedi gallu trefnu diwrnodau 'Bwyd a Hwyl' yn ystod y gwyliau, lle mae plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n eu haddysgu am grwpiau bwyd, pwysigrwydd cadw'n heini, a gwneud dewisiadau bwyd iach o oedran ifanc.

 

Dywedodd Matt, Maethegydd Iechyd y Cyhoedd Dieteteg ei bod yn “wych gweld y sgiliau o’r cwrs yn cael eu rhoi ar waith gyda’r plant” ac mai’r “peth allweddol yw gweld y newidiadau ymddygiad mewn dewisiadau iachach yn cael eu cymryd adref”.

 

Mae miloedd o blant wedi cael eu haddysgu dros yr haf ar sut i fwyta’n iach, ac mae effaith gadarnhaol y diwrnodau ‘Bwyd a Hwyl’ hyn i’w deimlo gartref hefyd. Rhannodd Gemma, sy’n fam i ddau o blant, fod ei merch ieuengaf bellach yn “fwy agored i roi cynnig ar fwydydd newydd ac wedi dechrau dewis opsiynau iachach” ers mynychu’r rhaglen.

 

Gwyliwch y fideo i weld mwy a chlywed gan Lisa, arweinydd Bwyd a Hwyl a Matt, am yr hyn maen nhw'n ei wneud:

 

 

 

 

Eisiau cynnwys eich ysgol neu feithrinfa? E-bostiwch ABB.NSFLbooking@wales.nhs.uk , am ragor o wybodaeth.