Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Ymateb Cymunedol yn ennill Gwobr 'Nursing Times'

25ain Mai 2021

Enwebodd Charlotte Leonard, Nyrs Ymateb Cyflym ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Y tîm Ymateb Cymunedol Caerffili yng Ngwobrau'r Nursing Times ar gyfer prosiect osgoi ymweliad ysbyty a galluogi gofal brys yn y cartref. Ar 13fed o fis Mai, cafodd y tîm eu cyhoeddi yn enillwyr y 'Nursing Times Ignite Patient Flow Competition'. 

Mae'r prosiect yn caniatáu i ofalwyr adnabod yr arwyddion rhybuddio cynnar a allai ddangos bod rhywun yn sâl a chyfeirio eu pryderon at y nyrsys ymateb cyflym i gael asesiad llawn i weld a oes modd osgoi ymweld a'r ysbyty. Bydd hyn yn gwella profiad unigolion trwy eu galluogi i aros gartref a chael mynediad at asesiad a thriniaeth gyflym, a fydd yn ei dro yn atal derbyniadau diangen i'r ysbyty.

Dywedodd y beirniaid:

“Mae'n wych gweld sut y gall fframwaith clir ac ehangiad i ofalwyr yn meddwl llai o ymweliadau i'r ysbyty. Mae'r prosiect yn dangos cydweithredu a defnydd da o ddata i lywio'r arloesedd. Mae'r tîm wedi defnyddio data derbyn i berchnogi problem i gymryd perchnogaeth datrysiad gydag allbynnau mesuradwy. ”

Roedd cystadleuaeth 'Ignite Innovation' yn alwad am nyrsys â syniadau beiddgar ar sut i wella taith y claf trwy arloesi yn y system iechyd. Mae hwn yn ddigwyddiad cenedlaethol ac felly'n gyfle gwych i arddangos gwaith gwella ansawdd y Tîm Ymateb Cymunedol.