Os ydych yn ysmygu ac yn ymweld ag un o'n hysbytai, cofiwch...
Mae holl safleoedd Ysbyty Athrofaol Aneurin Bevan yn Ddi-fwg. Mae’n anghyfreithlon i ysmygu ar dir ysbytai a gallai unrhyw un sy’n cael ei weld yn ysmygu gael dirwy o £100.
Peidiwch ag ysmygu unrhyw le ar dir ein hysbyty. Drwy beidio ag ysmygu yn y mannau hyn, byddwch yn osgoi niweidio pobl agored i niwed a bydd yn helpu i gadw ein hysbytai yn lân ac yn lleoedd diogel i bawb sy'n eu defnyddio.
Mae ein swyddogion di-fwg ar gael ar draws ein safleoedd i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y ddeddfwriaeth ddi-fwg.
Nid yw byth yn rhy hwyr i wneud y penderfyniad i roi'r gorau i ysmygu. Rydym yma i'ch cefnogi gyda Gwasanaethau Rhoi'r Gorau i Ysmygu'r GIG am ddim, os ydych yn barod i roi'r gorau iddi.
Component has been removed through translation. Check with originating site of what this should be.