Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn agor uned brofi dros dro yn Penyrheol ar ddydd Mercher 14 Hydref.
Bydd yr uned symudol newydd hon yn darparu gwasanaeth profi galw heibio yn ystod y prynhawn i breswylwyr Caerffili, drwy apwyntiad yn unig.
Os oes gennych symptomau Covid - peswch newydd a pharhaus, tymheredd uchel neu wedi colli'ch synnwyr blasu a/neu arogli - neu os ydych wedi bod yn teimlo'n sâl am ddim rheswm penodol, ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am - 6pm i archebu prawf.
Bydd yr uned brofi symudol wedi'i lleoli ym Mharc Pen-yr-heol Parc, (Penyrheol), a bydd ar agor o 2pm ddydd Mercher 14 Hydref tan ddydd Llun 19 Hydref.
Bydd yr uned brofi symudol galw heibio yng Nghanolfan Hamdden Caerffili (CF83 3SW) yn parhau i fod yn agored rhwng 9am - 12.30pm
Cyfleuster Profi Covid Dros Dro Canolfan Hamdden Caerffili
Canolfan Hamdden Caerffili (CF83 3SW)
9am – 12.30pm
Dydd Mercher 14 Hydref 2020 - dydd Llun 19 Hydref 2020,
Cyfleuster Profi Covid Dros Dro Penyrheol
Parc Pen-yr-heol Parc, (Penyrheol) 2pm-5.30pm
Dydd Mercher 14 Hydref 2020 - dydd Llun 19 Hydref 2020,
• Apwyntiadau'n unig. Ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am - 6pm.
• Caiff y prawf ei gwblhau mewn 5 munud
• Ar gyfer trigolion Caerffili'n unig. Dewch â phrawf adnabod a phrawf o'ch cyfeiriad.
• Gwisgwch orchudd wyneb ar y ffordd i'ch prawf ac oddi yno
• Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
• Peidiwch ag ymweld ag unrhyw siopau na mannau eraill ar y ffordd i'r prawf nac oddi yno
• Cofiwch, os ydych yn profi symptomau Coronafeirws, rhaid i chi a'ch cartref cyfan hunanynysu gartref nes i chi dderbyn canlyniad eich prawf.
I bobl sy'n byw y tu allan i ardal Caerffili, mae cyfleusterau profi eraill ar gael yng Ngwent.
Ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am - 6pm i drefnu prawf.
Gallwch hefyd gael prawf drwy'r post i'ch cartref.
Gwnewch gais ar-lein yn https://llyw.cymru/ neu ffoniwch 119.