Neidio i'r prif gynnwy

Unedau Profi Symudol COVID-19 ym Mlaenau Gwent

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ymestyn oriau agor ei unedau profi symudol COVID-19 ym Mlaenau Gwent.

 

Os oes gennych symptomau Coronafeirws (Covid-19) - peswch newydd a pharhaus, tymheredd uchel neu wedi colli'ch synnwyr blasu a/neu arogli, ffoniwch 0300 30 31 222 i drefnu prawf cyflym a diogel.

 

Cofiwch, gall y symptomau hyn fod yn ysgafn iawn.

 

O ddydd Gwener 27 Tachwedd tan ddydd Iau 3 Rhagfyr, bydd yr unedau profi symudol yn darparu gwasanaeth profi galw heibio i breswylwyr y fwrdeistref.

 

Mae'r amserlen i'w gweld isod:

 

 

Dydd Gwener 27/11     

 

09:00-12:30

Maes Parcio Canolfan Siopa Gwent, Ffordd Gwent, Tredegar NP22 3E

 

14:00-16:30        

Maes parcio Theatr Beaufort, Theatr Beaufort, Frost Road, Glynebwy NP23 5QQ

 

Dydd Sadwrn 28/11 – Sul 29/11

 

09:00 – 12:30 & 14:00 - 16:30

Canolfan Chwaraeon Abertyleri, Stryd Alma, NP13 1QD  

 

Dydd Llun 30/11 – Mawrth 1/12

 

09:00-12:30        

Maes Parcio Canolfan Siopa Gwent, Ffordd Gwent, Tredegar NP22 3E        

14:00-16:30

Blaenau, maes parcio yng nghefn y Stryd Fawr,  NP13 3AF

 

                                     

 

Dydd Mercher 2/12 – Iau 3/12

 

09:00-12:30

Maes Parcio Canolfan Siopa Gwent, Ffordd Gwent, Tredegar NP22 3E        

 

14:00-16:30

Clwb Cymdeithasol a Chwaraeon Hilltop, Darby Cres, Glynebwy NP23 6QG

 

 

 

Cysylltwch â ni ar 0300 30 31 222- 8am-8pm o ddydd Llun - Gwener, a 8am-6pm ar benwythnosau i drefnu prawf.

Rydym hefyd yn eich annog i drefnu apwyntiad ymlaen llaw, ond bydd nifer cyfyngedig o apwyntiadau galw heibio dyddiol ar gael.

 

• Mae'r prawf yn cael ei wneud mewn 5 munud

• Ar gyfer trigolion Blaenau Gwent yn unig. Dewch â dull adnabod a phrawf o gyfeiriad.

• Gwisgwch orchudd wyneb ar y ffordd i'ch prawf ac oddi yno

• Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

• Peidiwch ag ymweld ag unrhyw siopau na mannau eraill ar y ffordd i'r prawf nac oddi yno

• Cofiwch, os oes gennych symptomau Coronafeirws, rhaid i chi a'ch aelwyd gyfan hunanynysu gartref nes i chi dderbyn canlyniad eich prawf.

 

I bobl sy'n byw y tu allan i ardal Blaenau Gwent, mae cyfleusterau profi eraill ar gael yng Ngwent. Ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am - 6pm i archebu.

 

Gallwch hefyd gael prawf drwy'r post i'ch cartref.

 

Gwnewch gais ar-lein yn https://llyw.cymru/ neu ffoniwch 119.

 

 

Component has been removed through translation. Check with originating site of what this should be.