Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, yn talu teyrnged i staff y Bwrdd Iechyd

Y prynhawn yma (Dydd Mercher 22ain Gorffennaf), cafodd staff yn Ysbyty Brenhinol Gwent gyfle i gwrdd â Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, wrth iddo ddiolch iddynt am eu gwaith anhygoel yn ystod Pandemig Covid-19.

 

Yn ei ymweliad cyntaf ag Ysbyty ers i Covid-19 ddechrau, roedd y Gweinidog yng Ngorllewin Casnewydd, Jayne Bryant, yng nghwmni'r Gweinidog. Buont yn siarad ag ystod o aelodau staff- o Feddygon, Nyrsys, Fferyllwyr a Ffisiotherapyddion, i Staff Domestig, Porthorion, Nyrsys Myfyrwyr a staff Gweithredol - am y rolau y maent wedi'u chwarae yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws hyd yn hyn.

 

Esboniodd llawer o aelodau staff sut roeddent wedi trawsnewid eu gweithleoedd arferol oherwydd Covid-19, a disgrifiwyd yr heriau y maent wedi goresgyn gyda'i gilydd. Dywedodd un aelod o staff wrth y Gweinidog "Chwaraeon ni i gyd rhan fawr ynddo".

 

Diolch i'n staff arbennig- rydych chi i gyd wedi bod, ac yn parhau i fod, yn ANHYGOEL!