Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Atal Canser Serfigol - 17-23 Ionawr 2022

Dydd Llun 17 Ionawr 2022

Mae hi'n Wythnos Atal Canser Ceg y Groth ac mae gwybod pa arwyddion a symptomau Canser Serfigol i gadw llygad amdanynt yn bwysig iawn.

Y symptomau mwyaf cyffredin yw:

  • Gwaedu o'r wain sy'n anarferol i chi - ar ôl y menopos, rhwng eich mislif neu ar ôl rhyw
  • Poen anesboniadwy yng ngwaelod eich cefn neu rhwng esgyrn eich clun (pelfis)
  • Poen neu anghysur yn ystod rhyw
  • Newidiadau i arllwysiad o'r wain

Ni fydd y symptomau hyn fel arfer yn arwain at ganser ceg y groth, ond os ydych chi'n profi unrhyw un o'r uchod, mae'n bwysig cysylltu â'ch Meddyg Teulu. Peidiwch ag aros tan eich apwyntiad prawf ceg y groth i drafod y symptomau hyn - cysylltwch â'ch Meddyg Teulu cyn gynted ag y byddwch yn sylwi arnynt.

I gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Canser Serfigol Jo neu ffoniwch linell gymorth Ymddiriedolaeth Jo ar 0808 802 8000.