Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Diabetes 2020 #TheBigPicture

Mae wythnos Clefyd y Siwgr yn fenter genedlaethol flynyddol i gynyddu ymwybyddiaeth o glefyd y siwgr (diabetes) a chodi arian hanfodol ar gyfer ymchwil. Mae profiad pawb o ddiabetes yn wahanol, ond rydym wedi'n huno gan nod cyffredin – adeiladu dyfodol gwell. Helpwch ni i beintio'r #LlunMawr yr wythnos Diabetes hwn.

Y buddugoliaethau, yr anawsterau, y rheolweithiau dyddiol a throeon annisgwyl- ewch i wefan Diabetes UK i ddod o hyd i fideos o bobl yn rhannu eu straeon; Erin yn byw gyda diabetes math 1, Charlie a gafodd ddiagnosis o LADA (math o ddiabetes math 1 sy'n datblygu'n ddiweddarach fel oedolyn), Corinne yn byw gyda diabetes math 2 ac yn siarad am ymchwil i atal cymhlethdodau diabetes, a Ramona yn siarad am sut mae nofio yn ei helpu i reoli ei diabetes. Mae Jit yn dweud wrthym sut mae gwirfoddoli ar gyfer Diabetes UK wedi ei helpu yn bersonol a chlywn gan wirfoddolwyr ar y digwyddiadau i blant gyda Diabetes Math 1.

Beth am Ddiabetes a Coronafeirws? Amlygodd adroddiad diweddar y risg gynyddol y mae pobl â diabetes yn ei hwynebu os ydynt yn contractio'r firws. Rhai ffactorau risg na allwch eu newid megis oedran, math o ddiabetes neu ethnigrwydd ond gellir lleihau ffactorau risg eraill megis glwcos gwaed uchel a gordewdra drwy ddewis patrwm bwyta'n iach, gwneud ymarfer corff rheolaidd a chael digon o gwsg.

Am y wybodaeth ddiweddaraf am ddiabetes a Covid19, ewch i wefan Diabetes UK: https://www.diabetes.org.uk/about_us/news/coronavirus