Dydd Iau 16 Mehefin 2022
Mae’r wythnos hon yn Wythnos Genedlaethol Rhoddwyr Gwaed a dydd Mawrth fel rhan o Ddiwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd, ymwelon ni â chanolfan Rhoddwyr Gwaed Cymru yn Ystrad Mynach i ddangos i chi yn union beth sydd ynghlwm wrth roi gwaed a sut y gall eich gwaed achub bywydau.
Cafodd y Facebook Live ei ffrydio ar ein tudalen Facebook , a hyd yma mae bron i 7,500 o bobl wedi ei weld.
Meddwl am roi gwaed? Trefnwch apwyntiad: http://www.wbs.wales/abbdw22