Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Genedlaethol Rhwng Cenedlaethau 8 i 14 Mawrth

Yr wythnos hon, rydym yn dathlu Wythnos Genedlaethol Rhwng Cenedlaethau...

Ar ôl blwyddyn heriol, mae'n bleser tynnu sylw at y gwaith y mae ein partneriaid mewn colegau, ysgolion, cartrefi gofal a grwpiau ieuenctid wedi parhau i'w wneud er gwaethaf yr hinsawdd sydd ohoni. Mae arfer rhwng cenedlaethau wedi parhau dros y flwyddyn ddiwethaf ar ôl addasu i'r amgylchedd gwahanol yr ydym yn ei gael ein hunain ynddo.

Trwy gydol yr wythnos hon, byddwn yn codi ymwybyddiaeth o'r gwaith gwych sydd wedi'i wneud gan fyfyrwyr coleg, disgyblion ysgol a grwpiau ieuenctid. Maent wedi bod yn allweddol wrth gefnogi'r gofal a ddarparwn a gwella lles ein cleifion a'n cymuned.

Yr wythnos hon rydym yn eich gwahodd i ddathlu gyda ni.