Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Gweithredu Dementia (# DAW2021) Mai 17eg - Mai 23ain 2021

Mae Wythnos Gweithredu Dementia yn ddigwyddiad cenedlaethol sy'n gweld sefydliadau a'r cyhoedd yn dod at eu gilydd i weithredu i wella bywydau pobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Disgwylir i nifer y bobl sy'n byw gyda dementia yn y DU dyfu'n gyflym dros y degawdau nesaf.

Yn fyd-eang, bydd nifer y bobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn cynyddu i 152m yn 2050, cynnydd o 204%.

Mae Cynllun Gweithredu Dementia Cenedlaethol Cymru (2018) yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau, urddas ac ymreolaeth pobl sy'n byw gyda dementia a'r bobl sy'n gofalu amdanynt. Fel Bwrdd Dementia Rhanbarthol sefydledig, rydym wedi adnewyddu ein cynllun gweithredu lleol i yrru gwelliannau yn erbyn 6 nod allweddol y Cynllun Cenedlaethol. Y nodau hyn yw:

  1. Lleihau Risg ac Oedi Dechrau Ddementia
  2. Codi Ymwybyddiaeth a Dealltwriaeth
  3. Cydnabod ac Adnabod
  4. Asesu a Diagnosis
  5. Byw cystal â phosib, cyhyd â phosib gyda dementia
  6. Yr angen am fwy o gefnogaeth

Rhwng y 17 eg a'r 23 ain o Fai, i gefnogi Wythnos Gweithredu Dementia 2021, caiff cyfres o ffilmiau byr yn cael ei gyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol, gyda phob diwrnod yn canolbwyntio ar nod blaenoriaeth unigol. Yn y ffilmiau, mae staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a sefydliadau partner yn addo gweithredu i wella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr.

Cymerwch gip ar y ffilmiau byr canlynol sy'n dangos addewidion o gefnogaeth gan ein staff, ein Tîm Gweithredol a'n sefydliadau partner.
 
 

Diwrnod 6

Mae Karen Newman, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfathrebu ac Ymgysylltu, yn addo cyfathrebu a chyhoeddi gwybodaeth hygyrch sy'n codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o dementia, ac yn hyrwyddo dewisiadau ffordd o fyw i wella llesiant pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr a'r boblogaeth ehangach.

Mae Peter Carr, Uwch Gyfarwyddwr Therapïau a Gwyddorau Iechyd, yn addo cefnogi pobl sy’n byw gyda dementia i gael mynediad at wasanaethau therapi ymrwymedig yn ôl yr angen, ar ôl cael diagnosis, waeth lle maent yn byw.

 

Diwrnod 5

Mae Nicola Prygodzicz, Uwch Gyfarwyddwr Cynllunio, Digidol a TG, yn addo ystyried y ffordd mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig ac yn cynnal apwyntiadau gan wneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer cleifion a gofalwyr i gael mynediad ar apwyntiadau.

Mae Leanne Watkins, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, yn addo gweithio gyda thimau a phartneriaid i adolygu llwybrau pontio i sicrhau trosglwyddiad gofal cefnogol a didrafferth.

 

Byw cystal â phosibl, cyhyd â phosibl â dementia

 

Diwrnod 4

Mae James Calvert, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol, yn addo gweithio'n agos gydag ymgynghorwyr, meddygon ysbyty a meddygon teulu i gynyddu cyfraddau diagnostig dementia fel bod pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr yn gallu cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir.
 

 
Sicrhau arfer gorau wrth ddatblygu a gweithredu llwybrau atgyfeirio a gofal dementia
 
 
 
Mae Rhiannon Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, yn addo cefnogi datblygiad a gweithrediad Siarter Ysbyty Cyfeillgar i Ddementia ar draws ein holl wardiau i wella profiad pobl o ofal.
 
 
 
 

Diwrnod 3

Mae Geraint Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygiad Sefydliadol a Gweithlu, yn addo i wella dysgu a datblygu fel bod yr holl staff, o bob disgyblaeth, ar bob lefel yn gweithredu ynghylch gofal dementia sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn ymarfer dyddiol.
 
 
 
 
Cydnabod ac Adnabod
 
 
 

Diwrnod 2

 
Mae Judith Paget, y Prif Weithredwr, yn addo gweithio gyda'n holl bartneriaid mewn sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, gwirfoddol ac annibynnol i ddylanwadu ar Gymunedau Achrededig Dementia a'u gyrru ymlaen, gyda'r nod o gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr.
 
 
 
Codi Ymwybyddiaeth a Deall
 
 
 
 

Diwrnod 1

Mae Glyn Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid a Pherfformiad yn addo gweithio gyda thimau clinigol a phartneriaid i gynnal adolygiad o wasanaethau a gomisiynwyd ar draws y Llwybr Dementia i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia yn rhagweithiol.
 
 
 
Beth ddywedodd pobl sy'n byw gyda dementia a gofalwyr wrthym ...
 
 
Mae Sarah Aitken, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus yn addo ystyried yr asesiad o anghenion poblogaeth leol a chefnogi datblygiad gwasanaethau newydd ac arloesol sy'n diwallu anghenion pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr.