Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos i fynd nes bod Ysbyty Athrofaol y Faenor yn trawsnewid gwasanaethau gofal iechyd y GIG yng Ngwent

Dim ond wythnos sydd i fynd nes bod Ysbyty Athrofaol Y Faenor yn agor ei ddrysau i gleifion.

Mae'r ysbyty newydd gwerth £350m, yn Llanfrechfa, Cwmbran, yn rhan allweddol o Raglen Dyfodol Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy'n trawsnewid y gwasanaeth iechyd ar draws rhanbarth Gwent.

Bydd Ysbyty Athrofaol Y Faenor, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn agor ar Ddydd Mawrth 17 Tachwedd- bedwar mis yn gynt na'r disgwyl i helpu'r Bwrdd Iechyd ymateb i bwysau'r Gaeaf a COVID-19.

Bydd yr ysbyty newydd yn darparu canolfan ragoriaeth i drin ein cleifion mwyaf difrifol sâl, neu'r rhai ag anafiadau sylweddol, a nawr bydd yn Adran Achosion Brys i bawb sy'n byw yng Ngwent. Yn y gorffennol, mae Ysbytai Brenhinol Gwent a Nevill Hall ill dau wedi darparu’r gwasanaethau meddygol brys hyn, ond o 17 Tachwedd 2020 bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu canoli yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor i sicrhau bod y gofal o’r safon uchaf un yn cael ei ddarparu.

Bydd Unedau Mân Anafiadau 24/7 yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Ystrad Fawr. Bydd Ysbyty Aneurin Bevan yn parhau i fod ag Uned Mân Anafiadau, ar agor 9 am-7pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener (ar gau ar benwythnosau caeedig a gwyliau banc). Caiff Unedau Mân Anafiadau eu rhedeg gan Ymarferwyr Nyrsio Brys.

Bydd newidiadau hefyd i'r ffordd y darperir gwasanaethau i blant. Gellir trin plant 1 oed a hŷn yn eu Huned Mân Anafiadau lleol, ond os oes ganddynt salwch sy'n bygwth bywyd neu anaf difrifol, bydd angen iddynt fynd i Ysbyty Athrofaol y Grange. Bydd angen i bob babi o dan 12 mis oed fynd i Ysbyty Athrofaol Y Faenor, hyd yn oed os oes ganddo fân anaf neu salwch.

Gellir ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y newidiadau i ofal iechyd yng Ngwent ar wefan y Bwrdd Iechyd a thudalennau cyfryngau cymdeithasol.