Neidio i'r prif gynnwy

Y Baban Lleiaf a Ganwyd Yng Nghymru Yn Dathlu Ei Dyddiad Cyboeddus yn 118 Diwrnod Hen!

Mae teulu Robyn Chambers, y babi lleiaf i’w eni yng Nghymru, yn dathlu’r ffaith ei bod wedi cyrraedd ei ‘dyddiad geni’ disgwyliedig, a hithau’n 118 diwrnod oed! Ganwyd Robyn ar 8 Mawrth 2023, 23 wythnos a dau ddiwrnod i mewn i’r beichiogrwydd, yn pwyso 328 gram yn unig.

Ar ei ‘dyddiad geni’ disgwyliedig, sef 3 Gorffennaf 2023, bu Robyn, ei rhieni, a staff yr Uned Gofal Dwys Newyddenedigol a oedd yn gofalu amdani, yn dathlu ei chyflawniad anhygoel.

Dywedodd rhieni Robyn: “Hoffem ddiolch i’r holl staff anhygoel sydd wedi bod yn gofalu am Robyn drwy gydol ei thaith hir. Mae hi wedi bod drwyddi yn ei bywyd byr hyd yma, ond mae hi wedi gwneud cynnydd gwych, diolch i Staff anhygoel yr Uned Gofal Dwys Newyddenedigol.”

Llongyfarchiadau, Robyn, am gyrraedd y garreg filltir anhygoel hon!