Neidio i'r prif gynnwy

Y Bwrdd Iechyd yn cwrdd ag Ysbyty St George i drafod buddion Cymdeithion Meddygol

Dydd Mawrth 4 Mai 2021

Wrth i'r Bwrdd Iechyd ystyried ehangu rôl Cymdeithion Meddygol, yr wythnos diwethaf cynhaliwyd cyfarfod rhithwir rhwng cydweithwyr o Ysbyty Addysgu Prifysgol St George yn Llundain â'n Harweinwyr Llawfeddygol i drafod y buddion y gall rôl y Cydymaith Meddygol ei gynnig i wasanaethau drws ffrynt a gwasanaethau llawfeddygol dewisol.

Mae’r Cymdeithion Meddygol wedi’u hyfforddi i “fodel meddygol”.  Maent yn ategu'r tîm meddygol gan gefnogi meddygon i ddiagnosio a rheoli cleifion a darparu gofal.  Maent wedi'u hyfforddi i gyflawni nifer o rolau gan gynnwys: cymryd hanesion meddygol, archwilio cleifion, dadansoddi canlyniadau profion, a gwneud diagnosis o salwch o dan oruchwyliaeth uniongyrchol Meddyg Ymgynghorol.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn rhagweld y gallai cyflwyno Cymdeithion Meddygol i Wasanaethau Llawfeddygol gynorthwyo gyda'n cynlluniau adfer a pherfformiad ar ôl y pandemig. Sicrhawyd cyllid i weithredu'r model Cymdeithion Meddygol o fewn Gofal Wedi’i Drefnu, mewn ffordd debyg i'r adran Gofal Heb ei Drefnu, lle mae'r rôl wedi bod yn amhrisiadwy ac wedi cynyddu ansawdd y gofal a ddarparwn.

Hwylusodd dau o Gymdeithion Meddygol y Bwrdd Iechyd, David Taylor a Hannah Chudry, y sesiwn ymgysylltu â Chymdeithion Meddygol o Ysbyty Addysgu Prifysgol St George (gyda chynrychiolaeth o’r gwasanaeth Llawdriniaeth y Fron, Wroleg, Llawdriniaeth Blastig a Thrawma), pan wnaethant ddysgu am sut mae'r rôl yn gweithio yn Ysbyty St George a sut y gallwn ddechrau addasu model tebyg o fewn Llawfeddygaeth yma yng Ngwent. Roedd llawfeddygon o'r Bwrdd Iechyd yn gallu clywed yn uniongyrchol am waith gwych y rôl a thrafod sut y gallai'r rôl gynhyrchu buddion tebyg i'r Bwrdd Iechyd.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Meddygol, James Calvert: “Roedd yn bleser croesawu Cymdeithion Meddygol o Ysbyty St George i siarad â’n Harweinwyr Llawfeddygol am y buddion y gall y rôl eu cynnig i wasanaethau llawfeddygol drws ffrynt a dewisol. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu hamser a’u brwdfrydedd. Bydd datblygu rôl y Cydymaith Meddygol yn rhan bwysig o sicrhau gweithlu cynaliadwy ac effeithiol er budd cenedlaethau o gleifion yn y dyfodol.”