Neidio i'r prif gynnwy

Y cyntaf newydd yng Nghymru, gweithdrefn leiaf ymwthiol i helpu i frwydro yn erbyn poen o osteo-arthritis

Dydd Mawrth 21 Chwefror 2023

Tîm Radioleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan oedd y cyntaf yng Nghymru i gynnal triniaeth newydd sy'n cynorthwyo pobl sy'n dioddef o Osteoarthritis (OA) ysgafn i gymedrol, cyflwr sy'n rhoi poen cyhyrysgerbydol (MSK).

Mae'r driniaeth yn emboleiddio rhydweli gliniog, sy'n cynorthwyo pobl drwy geisio lleddfu poen drwy emboleiddio'r pibelli newydd patholegol wrth gynnal cyflenwad y wythïen  fwyfwy i'r asgwrn. Yn y pendraw mae'n lleihau'r boen i lefelau y gall cleifion eu dioddef yn haws o ddydd i ddydd.

Mae oddeutu 450,000 o unigolion yng Nghymru yn byw gydag Osteoarthritis. Mae llawer ohonynt yn cael symptomau OA ysgafn i gymedrol yn y pen-glin. Yn aml nid yw'n ddigon drwg i orfod cael cymal newydd ac opsiynau eraill nad ydynt yn rhai llawdriniaethol.

Mae hyn yn cynrychioli her benodol gyda’r gobaith y bydd y driniaeth hon yn cynnig cymorth, yn ôl Dr Nimit Goyal, Radiolegydd Ymyriadol Ymgynghorol. "Budd tymor byr sydd gan driniaethau presennol. Felly gobeithio y bydd gan y cleifion hyn gyfnod di-boen llawer hirach."

Y nod yw lleihau'r pwysau ar ofal sylfaenol a rhestrau aros am ffisiotherapi a thriniaethau therapi galwedigaethol. Mae'r driniaeth leiaf fewnwthiol newydd hefyd yn rhan o brosiect ymchwil i ddod o hyd i driniaethau amgen ar gyfer osteoarthritis. Mae'n digwydd gyda chymorth Llywodraeth Cymru drwy Gomisiwn Bevan a'r timau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

"Po fwyaf o bethau y gallwn eu gwneud fel achosion dydd, gorau oll, oherwydd dyna lle mae arloesedd y driniaeth hon, oherwydd gallwn newid y ffordd rydym yn trin cleifion. Felly'r gobaith yw bod hyn yn darparu opsiwn i'r cleifion hynny fel y gallant fyw bywyd di-boen a chael ansawdd bywyd gwell." Ychwanegodd Dr Nimit Goyal.

Mae'r driniaeth yn emboleiddio rhydweli gliniog (GAE) yn driniaeth Radioleg Ymyriadol sydd â'r nod o leddfu poen drwy emboleiddio'r pibelli newydd patholegol wrth gynnal cyflenwad y wythïen fwyfwy i'r asgwrn. Mae'r ffaith bod hyn yn cael ei gynnig fel achos dydd, gan ddefnyddio anesthetig lleol, yn golygu datrysiad cyflym a chyfleus i gleifion.

Dywedodd Mr Andrew Miller, Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol: "Doedd dim sôn am ymyrraeth gynnar i osteoarthritis. Os allwch chi ymyrryd yn gynnar yn y broses arthritig gynnar, fe fydd o fudd i'r claf, bydd yn atal datblygiad OA, ac atal yr angen i ddefnyddio adnoddau gofal iechyd a chymalau newydd. 

"Yr hyn sy'n gyffrous am y treial hwn yw ein bod ni'n newid bioleg y cymal heb newid y mynediad mecanyddol iddo drwy lawdriniaeth a fyddai hefyd yn bosibl. Felly, meddyginiaeth ataliol yw'r dyfodol a'r unig ffordd y gallwn gael trefn ar y galw enfawr sydd yn ein poblogaeth yn hytrach na disgwyl iddynt gael cymalau newydd," ychwanegodd.

Er mai hwn oedd y treial cyntaf yng Nghymru, digwyddodd gyda chymorth Yr Athro Mark Little, Radiolegydd Ymyriadol Ymgynghorol, Ysbyty Brenhinol Swydd Berkshire, sydd â phrofiad o wneud y driniaeth yn Lloegr. "Mae ymchwil a data yn allweddol i ddatblygiad y driniaeth fel bod modd i ni ganfod a oes modd i ni ei chynnig i gleifion yn y tymor hir. Mae gan hyn y potensial i newid sut rydym yn trin Osteoarthritis y penglin."

Bydd y prosiect hwn yn archwilio effeithiolrwydd y driniaeth radioleg ymyriadol newydd hon fel dewis o driniaeth i leihau poen a gwella symudedd cymal, ansawdd cyffredinol bywyd a llesiant cleifion sy'n byw gydag OA ysgafn i gymedrol y pen-glin.

Y gobaith yw y bydd yr astudiaeth, y gyntaf y gwyddom amdani yng Nghymru i archwilio buddion posibl y driniaeth, yn gweld buddion yr ymyrraeth hon gan arwain yn y pendraw ati’n cael ei mabwysiadu ledled Cymru.