Neidio i'r prif gynnwy

Y gymuned LHDT+ yng Nghymru yn cael eu gwahodd i rannu eu profiadau o'r GIG drwy farddoniaeth

Mae sefydliadau'r GIG ledled Cymru yn gofyn i'r gymuned LHDT+ (LGBT+) a'i chynghreiriaid roi eu profiadau o'r GIG mewn cerddi.

 Mae'r grŵp o sefydliadau yn gwahodd cleifion LHDT+, staff a'r gymuned ehangach i gyflwyno barddoniaeth ar gyfer cystadleuaeth sy'n cael ei chynnal i ddathlu Mis Hanes LHDT+, sydd eleni yn cymryd y thema 'Barddoniaeth, Rhyddiaith a Dramâu'.

Mae'r ymgyrch flynyddol yn edrych ar hanes y gymuned LHDT+, a'i nod yw hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth i'r bobl sy'n rhan ohoni drwy gynyddu amlygrwydd a dealltwriaeth o'r gymuned a'r materion y mae'n eu hwynebu.

Thema'r gystadleuaeth yw 'Cariad yw Cariad' yn y GIG, gan wahodd ymgeiswyr i rannu'r hyn y maent yn ei garu am y sefydliad, neu enghreifftiau lle mae cariad wedi disgleirio yn eu profiadau o ddefnyddio neu weithio o'i fewn. O ddechreuwyr i feirdd profiadol, gwahoddir cyflwyniadau o bob rhan o'r gymuned gyfan.

Nod y gystadleuaeth yw rhannu'r neges bod cariad yn ymestyn y tu hwnt i hunaniaeth o ran rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol, a bod sefydliadau'r GIG ledled Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cydraddoldeb a chynwysoldeb ar gyfer cleifion LHDT+, staff a'r gymuned ehangach.

Dywedodd Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru: "Mae Mis Hanes LHDT+ yn gyfle i ni i gyd fyfyrio ar brofiad y gymuned LHDT+, yn hanesyddol ac yn gyfoes, gan y gymuned LHDT+.

"Rwy'n glir nad oes lle i wahaniaethu o unrhyw fath o fewn y GIG yng Nghymru, ac fel sefydliad rydym wedi ymrwymo i gymryd camau cadarnhaol i herio effaith homoffobia, biffobia a thrawsffobia, gan weithio i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a wynebir gan bobl LHDT+.

"Mae'r gystadleuaeth farddoniaeth yn ffordd greadigol i ni nodi Mis Hanes LHDT+. Rydym yn edrych ymlaen at weld y cyflwyniadau, ac rwy'n siŵr y byddant yn rhoi mwy o ddealltwriaeth i ni o brofiadau ein staff LHDT+, y cleifion a'r gymuned ehangach.

"Hoffwn annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, a dymuno pob lwc i'n holl ymgeiswyr o bob cwr o Gymru."

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i gystadleuaeth barddoniaeth "Cariad yw Cariad" yw dydd Gwener 14eg Chwefror 2020. Bydd panel yn barnu pob cyflwyniad cyn i'r ennillydd gael ei ddatgelu mewn digwyddiad a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd ar ddydd Gwener 28 Chwefror 2020. Caiff manylion pellach am y digwyddiad eu cadarnhau maes o law.

I gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth, neu i gyflwyno eich cais, anfonwch e-bost at: LGBT.HistoryMonth@wales.nhs.uk