Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mark Drakeford, ag Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall heddiw (Dydd Gwener 23 Awst), lle cafodd gipolwg ar rywfaint o’r gwaith anhygoel sy’n digwydd ar draws y Bwrdd Iechyd.
Dechreuodd y diwrnod gydag ymweliad â’r Uned Endosgopi yn Ysbyty Brenhinol Gwent, lle cafodd daith o amgylch yr uned newydd, a chafodd glywed gan rai o aelodau allweddol y tîm, yn ogystal â rhai cleifion diolchgar.
Teithiodd wedyn i Ysbyty Nevill Hall i ymweld â gwahanol rannau o'r safle. Dechreuodd gyda thaith o amgylch rhai o ardaloedd yr ysbyty, ac yna ymweliad â staff ar Ward 3/2 i glywed am eu menter partneriaeth gyda Chyngor Sir Fynwy. Yna ymunodd Prif Weithredwr Dros Dro Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Carl James, ag ef am daith o amgylch safle adeiladu'r Uned Radiotherapi Lloeren Felindre i weld ei cynnydd diweddaraf.