Neidio i'r prif gynnwy

"Yr Hyn Sy'n Fy Nghadw i'n Effro yng Nghanol y Nos": Doctor yn Rhybuddio am Beryglon Dewis Lle Anghywir ar gyfer Gofal Brys

Mae meddyg yr Adran Frys wedi rhybuddio am y risgiau o fynychu Unedau Mân Anafiadau (MIUs) gyda salwch difrifol, ar ôl i gleifion sâl iawn - gan gynnwys plant - gael eu cludo i'r lle anghywir am gymorth.

Dywedodd Dr Alastair Richards, Cyfarwyddwr Clinigol Gofal Brys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Rydym yn gweld plant sâl yn dod i'n Hunedau Mân Anafaiadau, mae'n debyg oherwydd eu bod yn agosach at y gymuned. Ond gall oedi gofal fod yn beryglus. Nid yw fy nghydweithwyr mewn Unedau Mân Anafiadau a gofal sylfaenol brys wedi’u hyfforddi i ddelio â’r cyflyrau meddygol difrifol hyn.”

Nid yw'r mater yn digwydd i blant yn unig. Esboniodd Dr Richards fod oedolion â chyflyrau sy'n bygwth bywyd, fel poen yn y frest neu symptomau strôc, weithiau'n mynychu Unedau Mân Anafiadau yn hytrach na ffonio 999 neu fynd i'r Adran Achosion Brys. Gall hyn hefyd achosi oedi mewn triniaeth ar adeg dyngedfennol.

Er bod Unedau Mân Anafiadau yn cynnig gofal ardderchog ar gyfer anafiadau nad ydynt yn bygwth bywyd fel briwiau, ysigiadau, a thoriadau esgyrn, pwysleisiodd Dr Richards ei bod yn hanfodol deall eu cyfyngiadau.

“Rydym yn gweld pobl yn mynychu sydd â salwch yn hytrach nag anaf. Tra bod y timau MIU yn gwneud eu gorau, nid oes ganddynt yr offer i reoli cyflyrau sy'n bygwth bywyd. Os bydd rhywun â phoen yn y frest yn mynd i Uned Mân Anafiadau oherwydd ei fod yn agosach, mae'n gohirio'r gofal arbenigol sydd ei angen arnynt, a gallai'r oedi hwnnw arwain at ganlyniad gwaeth na galw ambiwlans neu fynd yn syth i'r Adran Achosion Brys. ” Rhybuddiodd Dr Richards.

"Felly, o'r holl system frys, dyna fyddai'r un sy'n fy nghadw i'n effro yn ystod y nos - ydy pobl, yn enwedig plant, yn troi lan at MIU gyda salwch a ddylai wir gael ei weld yn yr Adran Achosion Brys."

Ar gyfer salwch nad yw’n peryglu bywyd ac na allant aros am apwyntiad gyda’r meddyg teulu, gall opsiynau fel gwasanaethau gofal sylfaenol brys y Bwrdd Iechyd, a gyrchir drwy feddyg teulu neu drwy ffonio 111, ddarparu cymorth effeithiol. Fodd bynnag, dylai unrhyw un sy'n profi symptomau sy'n bygwth bywyd ffonio 999 neu fynd i'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.

Er mwyn helpu trigolion lleol i lywio eu hopsiynau, mae’r Bwrdd Iechyd wedi creu Canllaw Iechyd Gwent, sy’n cynnig cyngor ar ble i fynd am gymorth meddygol yng Ngwent. Mae Canllaw Iechyd Gwent ar gael yma: Canllaw Iechyd Gwent - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan