Pan adeiladwyd Ysbyty Cas-gwent ym 1998 fe'i hariannwyd gan y sector preifat. Mae’r adeilad felly yn eiddo i’r sector preifat ac mae’r Bwrdd Iechyd yn dal les i’w ddefnyddio tan fis Chwefror 2025.
Mae trafodaethau’n cael eu cynnal ar hyn o bryd i sicrhau bod trefniadau newydd yn cael eu cytuno ymhell cyn mis Chwefror 2025 naill ai drwy gytundeb i brynu’r adeilad neu drwy barhad trefniadau’r brydles.
Yn y naill senario na'r llall ni fydd unrhyw effaith ar ddarpariaeth barhaus gwasanaethau iechyd o Ysbyty Cymunedol Cas-gwent.
Bydd diweddariadau rheolaidd ar gynnydd yr uchod yn cael eu darparu fel y bo'n briodol.