Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty Ystrad Fawr yn Dathlu Degawd o Gynnig Gofal Ardderchog i Gymunedau Lleol

Dydd Mawrth 9 Tachwedd 2021

Rydyn ni'n dathlu pen-blwydd agor Ysbyty Ystrad Fawr yn DEG MLWYDD OED yr wythnos hon, wrth nodi ddegawd o'r hysbyty yn darparu gofal o'r radd flaenaf i bobl leol.

Agorodd yr Ysbyty Cyffredinol Lleol Gwell, yn Ystrad Mynach, ei ddrysau i gleifion ym mis Tachwedd 2011 ac mae wedi bod yn darparu ystod o wasanaethau gofal iechyd i gleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ers hynny.

Gydag Uned Geni annibynnol dan arweiniad Bydwreigiaeth ac Uned Mân Anafiadau dan Arweiniad Ymarferwyr Nyrsio Brys 24/7 i drin anafiadau preswylwyr lleol yn agosach at adref, Ysbyty Ystrad Fawr oedd yr Ysbyty cyntaf un o'i fath yn ein Bwrdd Iechyd. Wedi'i enwi yn Ysbyty Cyffredinol Lleol Gwell, cynrychiolodd Ysbyty Ystrad Fawr ddechrau model Dyfodol Clinigol ein Bwrdd Iechyd i ddod â gofal yn nes at adref.

Yn ogystal â gallu cynnig cyfleusterau genedigaeth o'r radd flaenaf a thrin anafiadau y tu allan i leoliad traddodiadol yr Adran Achosion Brys, bu Ysbyty Ystrad Fawr wrth wraidd y gymuned leol ers ei agor.

Gyda 164 o welyau cleifion preswyl, mae'r ysbyty hefyd yn cynnig llu o wasanaethau eraill, gan gynnwys; apwyntiadau cleifion allanol ar gyfer ystod o arbenigeddau; gwasanaethau diagnostig fel pelydrau-X, Sganiau MRI a CT; Gwasanaethau Adsefydlu a Therapi; Uned Asesu Feddygol ac Uned Eiddilwch Brys.

Yn dilyn llwyddiant Ysbyty Ystrad Fawr, cafodd Ysbytai Nevill HallBrenhinol Gwent eu newid i Ysbytai Cyffredinol Lleol Gwell yn dilyn agor Ysbyty Athrofaol y Faenor a chanoli gwasanaethau gofal arbenigol a gofal critigol ardal y Bwrdd Iechyd ym mis Tachwedd 2020.

Disgwylir i Ysbyty Ystrad Fawr ddod yn Ganolfan Ragoriaeth ei hun pan fydd ei Ganolfan Fron Arbenigol newydd sbon yn agor ddiwedd 2022. Bydd Canolfan y Fron newydd yn cynnig cyfleusterau diagnostig a thriniaeth arbenigol lleol y fron i gleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Dywedodd Dr Inder Singh, Cyfarwyddwr Clinigol Ysbyty Ystrad Fawr:

Hoffwn ddiolch i’n holl gydweithwyr a thimau sydd wedi ein helpu i gyrraedd lle rydyn ni heddiw. Roedd Ysbyty Ystrad Fawr yn Ysbyty chwyldroadol i ni ac arddangosodd dechrau ein model gofal iechyd newydd, felly rydym yn falch iawn ohono a'r cyfan y mae wedi'i gyflawni dros y degawd diwethaf. Rydym wedi gwella ein gwasanaethau yma yn barhaus yn Ysbyty Ystrad Fawr ac wedi parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel i'n cymunedau. Rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn disgleirio ymhellach yn y blynyddoedd i ddod gyda datblygiad ein Canolfan Fron arbenigol newydd.”

Dyma rhai o'r staff sydd wrth wraidd yr ysbyty yn esbonio fwy am y cyfleusterau arbenigol gwych sydd ar gael yn Ysbyty Ystrad Fawr yn y fideo hwn:

 

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Ysbyty Ystrad Fawr.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Raglen Dyfodol Clinigol y Bwrdd Iechyd.