Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Ymwybyddiaeth Profi am HIV (Cymru) 18fed – 24ain Tachwedd 2024

Mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth Profi am HIV yng Nghymru, ac mae'r tîm Iechyd Rhywiol eisiau manteisio ar y cyfle hwn i annog pawb i brofi am HIV.

Mae llawer o bobl yn HIV positif heb sylweddoli, ond gallant osgoi problemau sy'n effeithio ar fywyd trwy brofi a gall HIV effeithio ar unrhyw un ac unrhyw. Cael diagnosis cynnar yw'r strategaeth orau o ran derbyn triniaeth ac osgoi salwch yn y dyfodol.

Mae'n hawdd cael prawf, ceir canlyniadau cyflym, ac mae’n rhad ac am ddim i'w archebu.

Bydd dau glinig 'dros dro' yn cael eu trefnu ar gyfer yr wythnos brofi – lle gallwch gasglu pecyn Profi a Phostio (TAP) am ddim, gofyn cwestiynau am gyngor, cael eich cyfeirio a chael help i wneud y prawf, os dymunwch ei wneud yno. Yng Nghasnewydd gallwch hefyd dderbyn cymorth ar sut i gael mynediad at Prophylaxis Cyn-Gysylltiad (PrEP).

 

Cwmbrân - Dydd Mercher 20fed rhwng 10:30 - 14:30
Llyfrgell Cwmbrân
Gwent House
Sgwâr Gwent
Cwmbrân
NP44 1PL

 

Casnewydd - Dydd Mawrth 19fedrhwng 15:00 a 19:00
B6 Gorllewin
Ysbyty Brenhinol Gwent
Casnewydd
NP202UB

 

Os na allwch gael y pecyn TAP wedi'i anfon i'ch cyfeiriad cartref, cysylltwch â PHW.SexualHealth@wales.nhs.uk am gymorth i gael mynediad at y pecyn o bwynt casglu cymunedol yn eich ardal chi.

Am fwy o fanylion am HIV, y pecyn TAP a mwy, cliciwch ar y dolenni isod.

Cyswllt Iechyd Rhywiol BIPAB: Haint Rhywiol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru)

Dolen pecyn TAP: Profi Cartref | Archebu cit prawf drwy’r post ar gyfer Clamydia/Gonorea (ircymru.online)

Cyswllt dinasoedd Fast Track: Fast Track Casnewydd – Fast Track Cymru

Ymddiriedolaeth Terrence Higgins (THT) - opsiynau prawf cyflym, mae angen talu ffi fechan i’r rhain ond maent yn rhoi canlyniadau ar unwaith: Hunan-brofion gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins (tht.org.uk)

Er mwyn helpu i hyrwyddo Wythnos Profi HIV, rhannwch ein herthygl gyda'ch ffrindiau, teulu a chydweithwyr: Wythnos Profi HIV Cymru - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)