Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi gofalwyr di-dâl ac yn ymdrechu i sicrhau ein bod yn parhau gyda gwasanaethau a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Tîm Partneriaeth Ranbarthol Gwent yw'r cyntaf yn y DU i gyflawni'r Achrediad Uwch am fod yn wasanaeth sy'n Gyfeillgar i Ofalwyr.
Yn dilyn cloi ardal Sir Caerffili yn lleol o 6pm ddoe (8 Medi), gwelwch wybodaeth fanylach ar sut y gallai'r cyfyngiadau diweddar effeithio ar eich gwasanaethau Gofal Iechyd lleol a'r ffordd rydych chi'n cael mynediad atynt:
Ar ôl y cyfnod clo yng Nghaerffili, i breswylwyr a oedd yn Gwarchod cyn 16 Awst ac sy'n aros ar y Rhestr Cleifion Gwarchod, nid oes newid i'r cyngor gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn ailgyflwyno Gwarchod ar hyn o bryd.
O 6pm heno (Dydd Mawrth 8fed o Fedi 2020), bydd ardal Cyngor Bwrdeistref Sir Gaerffili yn dod yn Ardal Amddiffyn Iechyd Leol Estynedig a daw sawl cyfyngiad clo newydd i rym.
Er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, cleifion a staff Gofal Iechyd, o 6pm heddiw, dim ond gofal deintyddol brys/ hanfodol y bydd pob Meddygfa Deintyddol Caerffili yn gallu ei ddarparu ac ni fyddant yn gweld unrhyw gleifion sy'n byw y tu allan i'r Fwrdeistref i gael gofal deintyddol arferol yn hyn o bryd.
Ymunwch â ni ar gyfer ein Sesiwn Holi ac Ateb Fyw nesaf ar Facebook, Dydd Iau hwn, 10fed Medi 2020, am 6:00pm, lle bydd Dr Sarah Aitken a Dr Dave Hepburn yn trafod 'Sut y gallwch chi helpu i atal ail don o #COVID-19'.
A wyddoch chi bod ein Hunedau Mân Anafiadau yn cael eu rhedeg gan dîm profiadol o Ymarferwyr Nyrsio Brys medrus iawn, Nyrsys Brysbennu a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd?
Cymerwch gip olwg ar y fideo canlynol, sy'n dweud mwy wrthych chi..
Efallai eich bod wedi sylwi bod ein Hadrannau Achosion Brys yn brysur iawn unwaith eto.